Y Gwyll a ffilmio'r Gorllewin
- Cyhoeddwyd

Yr Uwch Arolygydd Tom Mathias (Richard Harrington) yn y Borth, ger Aberystwyth

Daeth Gregory Peck i hen harbwr Abergwaun ym 1955 i ffilmio rhai golygfeydd o'r ffilm Moby Dick ac yn 1972 daeth Richard Burton ac Elizabeth Taylor yno i ffilmio Under Milk Wood
Y Tŷ Cregyn hynod gafodd ei godi ar draeth Freshwater West, Sir Benfro yn 2010 ar gyfer ffilm Harry Potter and the Deathly Hallows
Bu Matthew Rhys, Sienna Miller a Keira Knightley yn ffilmio golygfeydd o'r ffilm The Edge of Love yn harbwr Cei Newydd yn 2007
Roedd coedwigoedd Mynydd Coronwen ger Tre'r Ddol yn un o leoliadau Y Gwyll
Daeth Piers Brosnan neu Bond, James Bond i draeth Penbryn, Ceredigion ar gyfer ffilmio Die Another Day (2002)
Criw ac actorion Snow White and the Huntsman yn ffilmio ar draeth Marloes, Sir Benfro yn 2011. Cafodd rhai o olygfeydd The Edge of Love hefyd eu ffimio yma.
Cafodd y cyfarwyddwr Ridley Scott ei ddenu i Freshwater West yn Sir Benfro i ffilmio Robin Hood yn 2009. Russell Crowe oedd yn chwarae'r prif ran.
Daeth Benedict Cumberbatch i draeth Barafundle, Sir Benfro i ffilmio Third Star yn 2010. Barafundle Bay oedd teitl gwreiddiol y ffilm.
Y Cyfarwyddwr Marc Evans yn bwrw golwg ar un o olygfeydd Y Gwyll ym Mlaenplwyf, Ceredigion. Mae carafan yr Uwch Arolygydd Tom Mathias i'w gweld yn y cefndir.