Bydd camerâu CCTV Ynys Môn yn cael eu diffodd

  • Cyhoeddwyd
CCTV
Disgrifiad o’r llun,
Mi fydd Cyngor Môn yn diffodd y camerâu ddiwedd mis Mai

Er mwyn arbed £177,000 bydd camerâu teledu cylch cyfyng mewn pum tref ar Ynys Môn yn cael eu diffodd fis nesaf oherwydd toriadau cyllideb.

Y bwriad yw diffodd 49 o gamerâu ar gyfer canol trefi Caergybi, Amlwch, Llangefni, Biwmares a Phorthaethwy ddydd Gwener, Mai 30.

Yn Chwefror penderfynodd y cyngor llawn o blaid roi terfyn ar y gwasanaeth anstatudol ac roedd chwe swydd dan fygythiad.

Mae hyn ymhlith arbedion effeithlonrwydd am fod cyllideb 2014-15 £7.5m yn llai.

Dywedodd y cyngor eu bod yn ceisio adleoli chwe aelod o staff sy'n gweithredu'r camerâu.

Dadleuol

Dywedodd arweinydd y cyngor, y Cynghorydd Ieuan Williams, "Rydym yn deall bod hwn yn benderfyniad dadleuol ond ein dyletswydd gyntaf ni fel awdurdod yw amddiffyn gwasanaethau statudol fel y gwasanaethau cymdeithasol ...

"Dyw CCTV ddim yn wasanaeth statudol ac felly bu rhaid gwneud y penderfyniad anodd iawn i ddod â'r ddarpariaeth yma i ben."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol