Crwban a terapiniaid wedi eu gadael gan berchnogion

  • Cyhoeddwyd
Terapin
Disgrifiad o’r llun,
Mae'r RSPCA yn ymchwilio wedi i derapiniaid a chrwban cael eu gadael gan eu perchnogion

Mae'r RSPCA yn apelio am wybodaeth wedi iddyn nhw ddarganfod crwban a thri o derapiniaid oedd wedi eu gadael gan eu perchnogion.

Yng ngwarchodfa natur Llynnoedd Garn ym Mlaenafon, ar ddydd Mercher, Ebrill 9, cafwyd hyd i for-grwban coch maint pêl-droed yn edrych yn wan a "wan a swrth".

Mewn digwyddiad gwahanol ar ddydd Iau, Ebrill 10, darganfuwyd tri terapin wedi eu gadael mewn bocs, tu allan i siop SofaSofa, yng Nghrymlyn ger Trecelyn.

Roeddynt mewn cyflwr eithaf da.

Cafodd yr anifeiliaid eu cludo i ganolfan bywyd gwyllt am asesiad ac yna i Noddfa Rhyngwladol Cymdeithas y Crwbanod ym Mro Morgannwg, lle maent yn derbyn gofal gan arbenigwyr.

Dim Esgus

Dywedodd Sarah Davies o'r RSPCA bod pobl yn cael "sioc" pan mae terapin yn tyfu cymaint ag angen tanciau dŵr mwy yn ogystal â chyfarpar ychwanegol.

Meddai: "Cyn cadw anifail anwes egsotig, hyd yn oed dros dro, dylai pobl ddarganfod beth yw anghenion yr anifail.

"Efallai bod angen amgylchedd neu fwyd arbennig iddyn nhw.

"Does yna ddim esgus o gwbl dros adael anifail. Os nad ydy'ch yn gallu edrych ar ôl anifail, ewch i ofyn am gymorth gan sefydliad lles anifeiliaid."

Mae'r RSPCA yn gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth am y crwban a'r terapiniaid i gysylltu â'u llinell wybodaeth drwy ffonio 0300 1238018.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol