Cofio meibion coll Rhyfel Byd Cyntaf Sir Y Fflint
- Cyhoeddwyd

Mae prosiect i gofio'r dynion wnaeth ymladd yn y Rhyfel Bryd Cyntaf o Sir Y Fflint wedi derbyn hwb o £10,000 gan y Gronfa Loteri.
Bydd y grant yn cael ei ddefnyddio i ddatblygu gwefan ynglŷn â'r hen Sir Y Fflint, fel roedd hi 100 mlynedd yn ôl.
Pwrpas y wefan yw cyhoeddi gwaith ymchwil sy'n esbonio be ddigwyddodd i'r bobl sydd wedi eu henwi ar gofebion ar draws y sir.
Ymchwil
Mi fydd hanesion teulu, adroddiadau o bapurau newydd, llythyrau, lluniau a dogfennau perthnasol yn cael eu cyhoeddi i fynd ar dudalennau'r wefan.
Bwriad y prosiect yw dod a'r enwau sydd ar y cofebion yn fyw - yn bobl a dyfodd i fyny, gafodd eu magu yn nhrefi a phentrefi Sir Y Fflint, cyn iddyn nhw fynd i'r rhyfel.
Dywedodd Eifion Williams, sydd wedi dechrau'r prosiect gyda'i wraig, Vivian, eu bod "wrth eu bodd" yn derbyn cefnogaeth y gronfa.
Meddai: "Mae'n gymeradwyaeth a chydnabyddiaeth o'r hyn yr ydym yn ceisio ei gyflawni.
"Bydd yn ein galluogi i weithio gyda mwy o wirfoddolwyr ar fwy o straeon a gallwn gael gafael ar gymorth proffesiynol technolegol i'r wefan ac i brofi ansawdd a chywirdeb yr ymchwil. "
Mae'r arian yn rhan o dros £46m mae'r gronfa wedi ei fuddsoddi mewn prosiectau sy'n ymwneud â'r rhyfel i nodi'r canmlwyddiant.
Meddai Jennifer Stewart pennaeth y Gronfa Lateri Fawr yng Nghymru: "Mae effaith y Rhyfel Byd Cyntaf yn bellgyrhaeddol ac yn cyffwrdd pob cornel o'r DU a thu hwnt.
"Mae'r grantiau yma'n helpu pobl ehangu eu dealltwriaeth o sut mae'r rhyfel wedi ffurfio ein byd modern."
Straeon perthnasol
- 18 Mawrth 2014
- 22 Ionawr 2014