'Rhybudd coch' i ddefaid
- Cyhoeddwyd
Mae grŵp arbenigol wedi cyflwyno rhybudd coch, gan ddweud fod "risg eithriadol o uchel" i ddefaid o'r llyngyr nematodirus.
Mae'n effeithio ar wyn yn bennaf ac yn gallu achosi marwolaeth. Mae'r rheini sy'n goroesi'n dueddol o ddioddef o ddiffyg tyfu.
Yn ôl y corff Rheoli Paraseitiaid ar Ddefaid mewn ffordd Gynaliadwy, mae'r newid sydyn o fod yn oer i fod yn gynnes yn debygol o roi cyfle i'r llyngyr ymledu.
Dywedodd Siôn Aron Jones o Hybu Cig Cymru: "Mae ffermwyr yn cael eu hannog i gymryd camau nawr er mwyn osgoi colledion."