Tŷ cychod newydd Porthdinllaen

  • Cyhoeddwyd
Tŷ cychod PorthdinllaenFfynhonnell y llun, RNLI
Disgrifiad o’r llun,
Tŷ cychod newydd Porthdinllaen

Mae criw Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol y Badau Achub (RNLI) ym Mhorthdinllaen wedi derbyn y goriadau ar gyfer eu tŷ cychod newydd sbon.

Fe fydd bad newydd gwerth £2.7m yn ymgartrefu yn yr adeilad newydd.

Mae'r criw lleol wedi bod yn treulio'r mis diwethaf yn setlo i mewn a, dros benwythnos y Pasg, mae cyfle i'r cyhoedd gael golwg o gwmpas y tŷ cychod newydd.

Mae'r bad wedi bod yn cael ei gadw ar angorfa dros dro tra bod y gwaith adeiladu yn mynd yn ei flaen.

Roedd yn rhaid i'r defnyddiau ar ei gyfer gael eu cludo ar y môr oherwydd lleoliad yr adeilad ar glogwyn.

Ariannwyd y bad newydd gan John Dominic Spicer o Swydd Rydychen, a fu farw ym mis Hydref 2010, ac mae'r bad newydd wedi cael ei enwi ar ei ôl.

Disgrifiad o’r llun,
Bad achub newydd Porthdinllaen

Dechreuodd yr hen fad achub ei wasanaeth ym 1987 ac mae wedi lansio 315 o weithiau.

Mae gan yr ardal darged ariannol i'w gyrraedd er mwyn cyfrannu tuag at y gwaith adeiladu, ac mae nhw eisoes wedi cynilo oddeutu £70,000 o'r £100,000 sydd ei angen.

Mae cefnogwyr yr RNLI wedi trefnu cyfres o ddigwyddiadau dros yr haf i gasglu gweddill yr arian.

Bydd taith gerdded noddedig 26 milltir o Gaernarfon i Nefyn ar Orffennaf y 27ain.

Hefyd, bydd y criw a chefnogwyr yn ymuno â'r cyflwynydd teledu, Morgan Jones, mewn taith feicio 200 milltir o hyd o amgylch Gwynedd.

Fe fydd y daith yn dechrau ar Gorffennaf 4 ac yn gorffen ym Mhorthdinllaen ymhen deuddydd.

Fe fydd diwrnod agored hefyd ym mis Awst ar ddyddiad sydd eto i'w gadarnhau.

Deunaw mis heriol

Dywedodd Michael Davies, llywiwr gyda'r RNLI ym Mhorthdinllaen: "Mae gweld y bad newydd, modern, yn ei gartref newydd yn fy llenwi â balchder.

"Mae wedi bod yn 18 mis heriol i gynnal busnes tra'n gweithio allan o adeilad dros dro.

"Tra bod y bad wedi angori yn y bae, nid yn unig mae ei chynnal wedi bod ychydig yn anoddach ond mae'r criw wedi gorfod ei chyrraedd drwy ddefnyddio cwch byrddio, sydd ddim yn addas iawn yn ystod tywydd garw.

"Mae gweld John D. Spicer yn saff yn ei chartref newydd wedi gwneud popeth yn werth chweil ac mae'n ddiweddglo prosiect hir a gwireddiad breuddwyd i ni.

"Yn amlwg, fel elusen, mae'r RNLI angen codi'r arian i gefnogi'r prosiect cyffrous hwn, a, thra ein bod ni'n agosau at ein gôl, dyden ni ddim yn arafu cweit eto ac yn gobeithio y bydd pobl yn ein cefnogi yn ein hwb terfynol dros yr haf."

Fe gafodd badau yr RNLI eu hwylio i'r môr 1,127 o weithiau yn 2013, 134 o weithiau'n fwy na 2012.

Fe gafodd 216 yn fwy o bobl eu hachub ac fe gafodd bywydau 49 o bobl eu harbed.