Torri gwasanaethau bysus Stagecoach

  • Cyhoeddwyd
Stagecoach
Disgrifiad o’r llun,
Fe ddywedon nhw yn ddiweddar eu bod yn cau un o'u canolfannau, gan roi 77 o swyddi yn y fantol.

Mae cwmni bysus mwyaf Cymru wedi cyhoeddi y byddan nhw'n diddymu 14 gwasanaeth yn llwyr ac yn rhedeg llai o fysus ar wyth o wasanaethau eraill.

Dywedodd Stagecoach mai gwasanaethau ym Mlaenau Gwent a Sir Fynwy fydd yn cael eu heffeithio fwyaf, tra bydd Torfaen, Caerffili a Rhondda Cynon Taf hefyd yn cael eu taro.

Fe ddywedon nhw yn ddiweddar eu bod yn cau un o'u canolfannau, gan roi 77 o swyddi yn y fantol, yn dilyn effaith toriadau Llywodraeth Cymru.

Llynedd, roedd gostyngiad o 25% yng nghymorth y llywodraeth i'r gwasanaethau bysiau.

Mae Stagecoach yn dweud bod y penderfyniad yn golygu nad oedd ganddynt ddewis ond cau'r ganolfan ym Mrynmawr.

Mae'r cwmni wedi bod mewn trafodaethau gyda chynrychiolwyr o'r awdurdodau lleol yn yr ardaloedd sy'n cael eu heffeithio, ac wedi bod yn ymgynhori gydag undebau dros gau y ganolfan o fis Gorffennaf ymlaen.

Dywedodd John Gould, rheolwr gyfarwyddwr Stagecoach yn y de: "Peidiwch â chamgymryd, mae'r cyfrifoldeb am golli gwasanaethau bysiau a swyddi yn gorwedd, yn y pen draw, wrth ddrws Llywodraeth Cymru yn dilyn blynyddoedd o doriadau i fuddsoddiad bysiau.

"Rydym yn difaru'n fawr yr effaith fydd hyn yn ei gael ar ein cwsmeriaid a'n cymunedau lleol.

"Yn hytrach nag amddiffyn a chefnogi teithio ar fws, mae penderfyniadau annoeth gweinidogion wedi rhoi trawiad go ddifrifol i rwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus y wlad a'r economi yn ehangach.

"Mae pobl ar draws Cymru wedi rhybuddio'r llywodraeth dro ar ôl tro am oblygiadau eu gweithredoedd, ond yn anffodus, mae nhw wedi gwrthod gwrando."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae hwn yn newyddion siomedig iawn.

"Cafodd graddfa ad-dalu ar gyfer cwmniau sy'n rhan o'r cynllun tocynnau bws rhatach ei osod yn dilyn adolygiad annibynnol er mwyn sicrhau nad oedd cwmniau fel Stagecoach yn 'colli allan nag yn cael budd' drwy gymryd rhan.

"Rydym yn parhau i weithio gyda Cydffederasiwn Cludiant Teithwyr Cymru i ddarparu diwydiant bysus cynaliadwy yng Nghymru."