Ailddatblygu ysbyty: atal o'i waith
- Cyhoeddwyd
Mae aelod o'r tîm sy'n ail-ddatblygu Ysbyty Glan Clwyd ym Modelwyddan wedi cael ei wahardd o'i waith.
Dywedodd llefarydd ar ran Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr eu bod yn ymchwilio i or-wario ar rannau o'r cynllun.
Ni fyddai'r ymchwilad yn effeithio ar yr ailddatblygu, meddai.
Fe ddechreuodd y gwaith 2008 ac mae i fod orffen ymhen pedair blynedd ar gost o £90m.
Straeon perthnasol
- 12 Chwefror 2014
- 23 Rhagfyr 2013