Damwain beic modur: gyrrwr wedi marw

  • Cyhoeddwyd

Mae heddlu'n apelio am dystion yn dilyn damwain farwol ym mhentre' Llangatwg yng Nghastell-nedd yn oriau man bore Gwener.

Bu farw gyrrwr beic modur pan darodd ei feic yn erbyn car oedd wedi parcio, tua dau o'r gloch y bore.

Roedd y gwr 27 oed - oedd yn byw'n lleol - yn teithio drwy'r pentref i gyfeiriad canol tref Castell-nedd.

Nawr, mae heddlu am siarad ag unrhywun welodd neu glywodd y gwrthdrawiad.

Gall unrhywun â gwybodaeth gysylltu â'r heddlu ar 101 neu drwy ffonio Taclo'r Tacle yn ddienw ar 0800 555111.