Pulis yn 'hapus i drafod' ffrae Caerdydd

  • Cyhoeddwyd
Tony Pulis and Ole Gunnar SolskjaerFfynhonnell y llun, Reuters

Mae rheolwr Crystal Palace, Tony Pulis yn dweud ei fod o'n fodlon siarad gyda'r Uwchgynghrair am honiadau Caerdydd ynglŷn â thîm yr Adar Gleision mewn gêm ddiweddar.

Mae Caerdydd yn mynnu bod gan Palace wybodaeth am eu tîm 24 awr cyn y gêm.

"Dw i'n cadw cofnod o bob sesiwn ac fe fyddai'n mynd â'r nodiadau at yr Uwchgynghrair i brofi 'mod i wedi dewis fy nhîm y dydd Llun cyn hynny," meddai Pulis.

"Fe weithion ni gyda'r tîm hwnnw am wythnos a doedd 'na ddim newidiadau o gwbl."

Mae'r Uwchgynghrair wedi dweud y bydd yn ymchwilio i'r honiadau, wedi cwyn swyddogol gan Gaerdydd yn dilyn y gêm.

Colli o dair gól i ddim oedd hanes yr Adar Gleision.

Mewn llythyr gafodd ei weld gan y BBC, mae Caerdydd yn dweud y dylid diystyru canlyniad y gêm.