Cwmni adeiladu: Diswyddiadau'n bosib?
- Cyhoeddwyd
Mae gweithwyr cwmni Green Hill yng Nghasnewydd yn wynebu diswyddiadau wedi rhybudd bod y cwmni'n cael ei roi yn nwylo'r gweinyddwyr, yn ôl undeb.
Fe ddywedodd undeb UCATT fod staff Green Hill Constructionwedi cael gwybod am y cynlluniau i gau ar Ebrill 11.
Meddai'r undeb, chafodd gweithwyr ddim cyfnod o rybudd, na chyfle i ymgynghori.
Mae'r cwmni, sy'n cyflogi dros 150 o bobl, yn adeiladau cartrefi fforddiadwy i gymdeithasau tai.
Fe gafodd Green Hill ei sefydlu yn 2006.
Fis Ionawr 2013, fe greodd y cwmni 20 o swyddi newydd wedi buddsoddiad o £146,650 gan gronfa twf economaidd Llywodraeth Cymru.
Fe ddywedodd Dave Gunter o UCATT nad oedd y cwmni wedi dangos unrhyw arwyddion o drafferthion cyn y cyhoeddiad.
'Diwrnod trist'
"Y tro cynta' i ni glywed am hyn oedd pan ddechreuodd ein haelodau ffonio'n dweud eu bod nhw wedi cael gwybod nad oedd 'na waith iddyn nhw," meddai.
"Yn amlwg, roedd yn ddiwrnod trist iddyn nhw."
Fe ddywedodd Mr Gunter bod y cwmni wedi cynghori'r gweithwyr i wneud cais am unrhyw gyflog pellach gan y Gwasanaeth Taliadau Diswyddo - ond doedd yr undeb heb gael gafael ar y cwmni i gadarnhau hynny.
Meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru - fuddsoddodd yn Green Hill fis Ionawr 2013:
"Mae Llywodraeth Cymru'n gweithio gyda Green Hill a'n blaenoriaeth ni yw ceisio rhoi cymorth i'r cwmni a sicrhau ein bod ni'r arbed cymaint o swyddi â phosib.
"Fe dderbyniodd y cwmni gefnogaeth ariannol gan Lywodraeth Cymru a 'dy ni wastad yn ceisio ad-ennill arian cyhoeddus lle mae'n bosib gwneud hynny.
"Ein prif flaenoriaeth ni yw rhoi cymorth i'r cwmni a'r staff yn ystod y cyfnod anodd hwn."
Mae BBC Cymru wedi ceisio cysylltu â Green Hill Construction.