Digwyddiad amheus yng Nghaerwent
- Cyhoeddwyd
Mae heddlu yng Nghaerwent yn annog trigolion i fod yn wyliadwrus wedi i ddynes oedrannus ofyn i blant hoffen nhw fynd i mewn i fan wen.
Roedd y ferch 17 oed a'r bachgen pump oed yn mynd â'u cwn am dro ar hyd y Ffordd Rufeinig toc cyn chwech o'r gloch brynhawn Iau.
Fe ddaeth dynes oedrannus allan o'r tŷ bach cyhoeddus, a gofyn hoffen nhw ddod i mewn i fan wen oedd wedi parcio gerllaw.
Roedd 'na ddyn yn eistedd yn y fan, oedd gan ffenestri tywyll yn y cefn ac ar ochr y gyrrwr.
Yn ôl y plant, roedd golwg flêr ar y dyn.
Roedd y ddynes oedrannus yn gwisgo cot hir, borffor â botymau mawr arni, het borffor ac esgidiau smart.
Chafodd y plant ddim eu brifo ac fe aethon nhw adref yn dilyn y digwyddiad.
Gall unrhywun â gwybodaeth gysylltu â'r heddlu ar 101 a dyfynnu'r cyfeirnod '403 17/4/14'.