Dynes ar fwrdd URC?
- Cyhoeddwyd

Am y tro cynta', mae disgwyl i Undeb Rygbi Cymru'n benodi dynes yn aelod o'r bwrdd.
Mae'r penodiad yn deillio o un o brif argymhellion arolwg gafodd ei gomisiynu gan yr undeb.
Barnwr yr Uchel Lys, Syr Robert Owen arweiniodd yr arolwg.
Mae disgwyl i'r aelod newydd gymryd rôl cyfarwyddwr anweithredol, a chanddi brofiad ym myd busnes yn hytrach na rygbi.
Fe fydd angen cymeradwyo'r argymhellion yng nghyfarfod blynyddol URC fis Hydref.
Mae'n debyg bod bwrdd URC wedi cytuno ar adroddiad Syr Robert Owen mewn egwyddor, ond dydi'r argymhellion heb gael eu derbyn yn swyddogol hyd yn hyn.
Fe ddechreuodd yr arolwg ym mis Awst 2012, ac mae disgwyl i adroddiad gael ei gyflwyno i aelodau yn fuan.
'Nifer darged'
Yn rhan o'r arolwg, fe edrychodd Syr Robert Owen ar ddulliau disgyblu a rheoleiddio URC yn ogystal â pha mor hir y dylai person gael bod yn aelod o fwrdd yr undeb.
Yn ddiweddar, fe alwodd cyn brif weithredwr URC, David Moffett - sy'n ymgyrchu am le ar y bwrdd - am i 'nifer darged' o aelodau fod yn ferched erbyn 2020.
Mewn datganiad, fe ddywedodd llefarydd ar ran URC eu bod nhw'n "cadarnhau ein bod ni wedi cynnal arolwg, ac mae 'na nifer o newidiadau diddorol i'w hystyried cyn y cyfarfod blynyddol nesaf."
Straeon perthnasol
- 6 Ebrill 2014
- 28 Mawrth 2014