Dyn yn marw wedi iddo syrthio yn Eryri
- Cyhoeddwyd

Mae dyn 21 oed wedi marw wedi iddo syrthio ger copa'r Wyddfa, meddai Heddlu'r Gogledd.
Fe gafodd swyddogion eu galw toc wedi pump o'r gloch brynhawn Gwener.
Roedd y dyn a'i gyfaill wedi cyrraedd y copa. Ar eu ffordd yn ôl i lawr y mynydd, fe wnaethon nhw gamgymeriad a cheisio cerdded ar lethr glaswelltog, serth.
Mae'n debyg bod y dyn wedi syrthio 500 troedfedd dros ochr dibyn pan geision nhw droi'n ôl.
Fe aeth tîm achub mynydd Llanberis a hofrennydd yr Awyrlu o Fali yno i roi cymorth i'r dyn.
Fe ddywedodd llefarydd ar ran yr heddlu bod y dyn wedi marw "er ymderchion pawb geisiodd ei achub".
Dyw'r heddlu heb gyhoeddi enw'r dyn fu farw.