Caer 0 - 0 Wrecsam
- Cyhoeddwyd

Caer 0 - 0 Wrecsam
Pwynt yr un oedd hi i'r gelynion lleol yn y gêm ddarbi fawr yn Stadiwm Deva b'nawn Sadwrn.
Roedd 'na ambell i gyfle i'r ddau dîm, ond diwedd rhwystredig oedd i'r gêm, yn aros yn ddi-sgôr hyd y chwiban olaf.
Mae'r canlyniad yn gadael Caer yn boenus o agos at ddisgyn o Uwchgynghrair Skrill ddiwedd y tymor, yn yr 20fed safle gyda 47 pwynt.
Mae'r pwynt b'nawn Sadwrn yn golygu bod Wrecsam yn codi i fod yn 16eg yn y tabl, gyda 58 o bwyntiau.