Taro tant
- Cyhoeddwyd

Mae nifer o delynorion gorau'r byd wedi cyrraedd Caernarfon ym mis Ebrill fel rhan o ddathliadau'r drydedd Ŵyl Delynau Ryngwladol Cymru.
O ddydd Sul Ebrill 20 ymlaen, mae'r Galeri yn ganolfan i'r ŵyl saith diwrnod gyda chyngherddau, cystadlaethau, darlithoedd a gwersi meistri.
Mae cyngherddau'n cael eu cynnal yn nosweithiol gyda pherfformiadau gan delynorion adnabyddus, yn cynnwys Catrin Finch, Hannah Stone, Telynores Swyddogol Tywysog Cymru, Elizaveta Kosina o Rwsia, Mieko Inoue o Japan, Zi Lan Liao o Tsiena, Sixto Corbalan o Baraguay a Leonard Jacome o Feniswela.
Bydd y bariton Cymreig Jeremy Huw Williams yn perfformio gyda Cherddorfa Siambr Cymru yn y Cyngerdd Rhyngwladol a bydd Georgia Ruth a Gwenan Gibbard yn cymryd rhan yn y Cyngerdd Cerddoriaeth Byd.
Gwersi meistri
Yn ogystal, mae nifer o delynorion yn cynnal gwersi meistri, gan gynnwys Marisa Robles o Sbaen, Chantal Mathieu o Ffrainc, y meistr o'r Iseldiroedd Edward Witsenburg, Imogen Barford o Loegr a Carol McClure o'r Unol Daleithiau.
Dywedodd Elinor Bennett, Cyfarwyddwyr yr Ŵyl: "Dwi wir wedi fy ngwirioni gan y talentau anhygoel sydd yn rhan o Ŵyl Delynau Ryngwladol Cymru 2014.
"Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at groesawu bawb i Gaernarfon am wythnos sydd yn sicr i fod yn arbennig tu hwnt."
Mae trefnwyr yr ŵyl yn disgwyl y bydd cystadleuwyr yn dod o wledydd mor bell â Hong Kong, Rwsia, Gwlad Pwyl, yr Aifft, Gogledd America yn ogystal â thelynorion lleol o bob cwr o'r Ynysoedd Prydeinig, i gystadlu yn y pedwar gwahanol gategori: dan 13 oed, dan 19 oed, cystadleuaeth cerdd byd a chystadleuaeth y 'Pencerdd' neu brif gerddor yr Ŵyl.
Ysgoloriaeth
Yna bydd y beirniaid yn cyflwyno telyn, a wnaed gan Delynau Teifi o Landysul, i'r telynor sy'n cyrraedd y brig yn y categori dan 13 oed neu dan 19 oed. Yn ogystal, bydd yr enillydd yn derbyn ysgoloriaeth sy'n cael ei dyfarnu i'r tri thelynor gorau ym mhob categori oedran.
Ychwanegodd Ms Bennett, "Eleni fe fydd Caernarfon yn croesawu cystadleuwyr a pherfformwyr o 26 gwlad sy'n profi llwyddiant Gŵyl Delynau Ryngwladol Cymru i esgor fel un o brif wyliau cerddoriaeth y delyn ledled y byd."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Ebrill 2006
- Cyhoeddwyd12 Rhagfyr 2005