Cwest wedi marwolaeth mewn ysbyty
- Cyhoeddwyd

Mae teulu dyn fu farw wedi llawdriniaeth wedi cael gwybod y bydd cwest i'w farwolaeth yn cael ei gynnal, bron i flwyddyn wedi iddo farw.
Bu farw Timothy Cowen, 51, o Gaergwrle yn Sir y Fflint fis Mai 2013, wedi llawdriniaeth yn Ysbyty Maelor Wrecsam.
Fe wnaeth archwiliad post mortem annibynnol ganfod bod achos marwolaeth gwreiddol Mr Cowen yn anghywir.
Mae bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr wedi ymddiheuro am yr oedi cyn yr ymchwiliad, ac am fethu rhoi gwybodaeth lawn i'r teulu.
Nawr, mae'r bwrdd wedi cynnal ymchwiliad ac wedi cyflwyno adroddiad i'r crwner.
Roedd gan Mr Cowen nifer o gyflyrau meddygol oedd yn golygu na allai lyncu na cherdded. Roedd o'n cael ei fwydo trwy beipen i'w stumog.
Tystysgrif marwolaeth
Mae ei deulu'n dweud fod ei dystysgrif marwolaeth yn honni iddo farw o niwmonia, a hynny oherwydd ei fod yn dioddef o barlys yr ymennydd.
Fodd bynnag, doedd ei deulu erioed wedi clywed fod parlys yr ymennydd ar Mr Cowen, ac fe ofynnon nhw am archwiliad annibynnol yn Ysbyty Iarlles Caer.
Canlyniad yr archwiliad hwnnw oedd bod Mr Cowen wedi marw o niwmonia estynnol ddwyochrog - oedd yn golygu bod y cyflwr wedi effeithio ar y ddau ysgyfaint.
Yn dilyn hyn, bu ymchwiliad yn edrych ar beth ddigwyddodd cyn i Mr Cowen farw.
Fe fydd canlyniadau'r ymchwiliad yn cael eu datgelu yn ystod y cwest.
Fe ddywedodd brawd Mr Cowen, Philip Cowen: "'Da ni'n bles y gall [y crwner] Mr [John] Gittins rwan gynnal cwest, ac y bydd be' ddigwyddodd i 'mrawd yn y dyddiau cyn iddo fo farw yn cael ei wneud yn gyhoeddus."
Mae Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr eisoes wedi ymddiheuro am yr oedi ynghylch yr ymchwiliad.
Fis Rhagfyr 2013, fe ddywedodd llefarydd bod y bwrdd yn "gwneud gwaith sylweddol i sicrhau bod unrhyw achosion sydd wedi gorfod aros yn hir, yn cael eu datrys cyn gynted â bo modd".
Straeon perthnasol
- 2 Rhagfyr 2013