Newid hinsawdd yn ganolbwynt anerchiad y Pasg

  • Cyhoeddwyd
Dr Barry Morgan
Disgrifiad o’r llun,
Fe alwodd Dr Barry Morgan ar addolwyr i wneud newidiadau sylfaenol i'w ffordd o fyw er mwyn diogelu'r blaned

Mae Archesgob Cymru yn annog plwyfolion i "fyw yn ôl gwerthoedd y Crist atgyfodedig" a gwneud popeth yn eu gallu i atal newid hinsawdd.

Yn ei bregeth Pasg yng Nghadeirlan Llandaf, galwodd Dr Barry Morgan ar addolwyr i wneud newidiadau sylfaenol i'w ffordd o fyw er mwyn diogelu'r blaned ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

Dywedodd fod angen i Gristnogion gymryd newid hinsawdd a'i effeithiau o ddifrif ac ymateb, a pheidio claddu eu pennau yn y tywod.

Meddai'r Archesgob: "Mae'r Atgyfodiad hefyd yn ymwneud â thrawsnewid y bydysawd. Oherwydd hynny, yn ogystal â gofalu am ein gilydd, mae'n rhaid i ni hefyd ofalu am fyd Duw.

"Dyna pam fod yn rhaid i ni, fel Cristnogion, gymryd newid hinsawdd a'i effeithiau o ddifrif. Mae cynnydd mewn tymheredd byd-eang yn achosi sychder, toddi mynyddodd iâ, cynhesu rhew parhaol, tonnau gwres a llifogydd arfordirol ym mron bob rhan o'r byd.

'Tywydd eithafol'

"Eisoes eleni gwelsom batrymau tywydd eithafol, nid dim ond mewn lleoedd pellennig lle nad yw'n ddim byd newydd, ond yma yng Nghymru a gweddill Prydain - nid yw hyn mwyach yn broblem i rywun arall. Mae'n broblem i ni.

"Ac ni allwn gladdu ein pennau yn y tywydd a chymryd arnom na wyddom amdano a'r rhan yr ydym yn ei chwarae yno mwyach.

"Ychydig wythnosau yn ôl roedd adroddiad gan Banel Rhynglywodraethol y Cenhedloedd Unedig ar Newid Hinsawdd yn gignoeth wrth amlinellu'r canlyniadau trychinebus i gyflenwadau bwyd, bywoliaeth, iechyd a diogelwch ar draws y byd pe caniateid i dwymo byd-eang barhau fel y mae.

"Rhybuddiodd y bydd newid hinsawdd yn achosi colledion economaidd, gwaethygu tlodi a chynyddu ymfudiad a risgiau gwrthdaro treisgar, yn ogystal ag achosi difrod i fywyd gwyllt a chynefinoedd.

"Gallem a dylem wneud rhywbeth amdano oherwydd mae'r holl dystiolaeth yn awgrymu fod newid hinsawdd yn wir yn bennaf yn ganlyniad ein hymddygiad, yn arbennig yn y Gorllewin.

'Dim yn anochel'

Ychwanegodd Dr Morgan: "Dywedodd Dr Chris Field, Cadeirydd Adroddiad y Cenhedloedd Unedig, nad oedd dim yn anochel am effeithiau gwaethaf newid hinsawdd ar bobl a natur ac anogodd bobl i feddwl yn greadigol sut y gallent newid eu bywydau a gwella bywydau pobl eraill.

"Yn amlwg, gall llywodraethau wneud llawer i gyfyngu'r difrod drwy ostwng allyriadau a llygredd aer lleol, er enghraifft, drwy ddiweddu, fel mae Cymorth Cristnogol yn awgrymu, y £314bn y mae'r byd yn ei wario ar gymhorthdal tanwydd ffosil.

"Ar yr un pryd, gallwn addasu i newidiadau drwy adeiladu amddiffynfeydd môr a chreu cartrefi gweddus i bobl mewn gwledydd fel Bangladesh.

"Y cwestiwn i ni yw sut ydym yn ymateb fel eglwys ac fel Cristnogion? Sut gallwn ni wneud mwy na rhoi'r gorau i'n hen arferion a gwneud newidiadau sylfaenol i'n ffordd o fyw? Mae rhai o'n heglwysi eisoes yn cymryd camau ymarferol - megis gosod paneli solar neu ffotofoltaig.

"Mae angen i ni wneud newidiadau sylfaenol i'n ffordd o fyw drwy fyw a gweithio'n gynaliadwy. Mae hynny'n golygu hyrwyddo cyfiawnder cymdeithasol a chydraddoldeb drwy Fasnach Deg, banciau bwyd, rhoi allanol, cysgodfeydd nos a helpu'r rhai mewn angen; arwain cymunedau ar syniadau a dysgu am fyw cynaliadwy a cheisio gostwng y defnydd o adnoddau drwy ailgylchu, rhannu ceir neu wneud ein mynwentydd yn hafan ar gyfer bywyd gwyllt.

'Dinistrio'

"Mae gofalu am y cread yn golygu mwynhau'r pethau a roddodd Duw i ni, ond hefyd sicrhau eu bod yno ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol ac nad ydym yn dinistrio ein planed.

"Mae atgyfodiad ynglŷn â dynoliaeth newydd, byd newydd, cread newydd - trefn newydd o fod fel canlyniad i Atgyfodiad Iesu.

"Ein tasg yn awr yw byw yn ôl gwerthoedd Ei fywyd atgyfodedig - i sicrhau teyrnas Dduw ar y ddaear fel y mae yn y Nefoedd. Ac mae hynny'n newydd da i'r holl bobloedd a'r holl gread."