Gwrthdrawiad: Gyrrwr beic modur wedi marw

  • Cyhoeddwyd

Mae gyrrwr beic modur wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad yn Llanedi yn Sir Gâr fore Sadwrn.

Fe gafodd yr heddlu eu galw i'r B4297 ger pentre' Fforest toc wedi 10, wedi i feic modur Suzuki GSX glas, fan Fiat Scudo goch tywyll a beic modur Suzuki GSXR du fod mewn gwrthdrawiad â'i gilydd.

Fe gafodd gyrrwr y beic modur glas - dyn 48 oed - anafiadau difrifol. Fe gafodd o'i gludo i Ysbyty Treforys, ond bu farw yno.

Mae ei deulu wedi cael gwybod.

Fe gafodd gyrrwr y beic modur arall fân anafiadau, a chafodd gyrrwr y fan driniaeth gan barafeddygon gan ei fod mewn sioc.

Mae Heddlu Dyfed Powys yn awyddus i siarad ag unrhywun welodd y gwrthdrawiad.

Gall unrhywun sydd â gwybodaeth gysylltu drwy ffonio 101 a dyfynnu'r cyfeirnod '111 Ebrill 19'.