Caerdydd 1-1 Stoke
- Cyhoeddwyd

Pwynt gwerthfawr arall i'r Adar Gleision yn eu brwydr i aros yn yr Uwchgynghrair b'nawn Sadwrn, wrth i gic o'r smotyn sicrhau gêm gyfartal yn erbyn Stoke.
Cic o'r smotyn oedd gôl Stoke, hefyd - Marko Arnautovic yn rhwydo wedi i Kim Bo-Kyung ffowlio Peter Odemwingie.
Peter Whittingham sgoriodd i Gaerdydd o'r smotyn yn yr ail hanner wedi i Steven Nzonzi faglu Fraizer Campbell.
Fe gafodd peniad Juan Cala ei diystyru gan y dyfarnwr, a chafodd Stoke gyfle euraid hefyd, wrth i Jonathan Walters daro'r postyn,
Mae 'na lygedyn o obaith i Gaerdydd, wrth iddyn nhw deithio i ogledd-ddwyrain Lloegr ddwywaith i wynebu Sunderland a Newcastle, cyn dod â'r tymor i ben adref, yn erbyn Chelsea.