Newcastle 1-2 Abertawe
- Cyhoeddwyd

Fe roddodd cic o'r smotyn gan Wilfried Bony fuddugoliaeth funud ola' i'r Elyrch yn erbyn Newcastle yn St James' Park.
Y pïod sgoriodd gynta' er bod Abertawe'n edrych yn gryf - Shola Ameobi'n rhwydo gyda'i droed dde.
Ond fe darodd yr Elyrch yn ôl pan beniodd Wilfried Bony gic gornel Ben Davies i'r gôl cyn hanner amser.
Roedd hi'n edrych fel 'tae'r gêm ar ben, ond fe faglodd Cheick Tiote Marvin Emnes, ac fe rwydodd Bony am yr eilwaith - o'r smotyn y tro hwn.
Mae'n debyg bod Abertawe wedi dechrau bodloni ar gêm gyfartal, cyn i Emnes ddod ymlaen fel eilydd a dylanwadu ar y gêm yn y munudau ola'.
Mae'r triphwynt yn sicrhau bod yr Elyrch chwe phwynt yn uwch na'r man peryglus hwnnw lle gallen nhw ddisgyn o'r Uwchgynghrair, a'r tymor yn prysur dynnu at ei derfyn.