Cyngor Caerffili yn bwriadu gwahardd e-sigaréts?

  • Cyhoeddwyd
e-cigarettesFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,
Does yna ddim llawer o gyfyngiadau defnyddio e-sigaréts ym Mhrydain ar hyn o bryd

Mi allai e-sigaréts gael eu gwahardd rhag cael eu defnyddio mewn adeiladu a cherbydau sydd yn berchen i'r cyngor yn ardal Caerffili.

Os caiff y cynnig ei gymeradwyo mi fyddai e-sigaréts yn cael eu trin yn yr un ffordd a sigarets cyffredin.

Mae adroddiad ar y cynnig yn dweud bod hyn yn cyd fynd gyda safiad Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan.

Dywedodd Cyngor Caerffili ei bod nhw yn cyflwyno'r cynnig am fod gweithwyr eisiau defnyddio sigarets electronig mewn adeiladau sydd yn berchen i'r cyngor.

Cafodd adroddiad arall ei wneud gan Gyfarwyddwyr Diogelu'r Cyhoedd Cymru oedd yn edrych ar effaith e-sigaréts.

Roedd yr adroddiad yn dweud bod Cyngor Caerffili wedi derbyn cwynion bod gyrrwyr tacsi yn ysmygu yn eu cerbydau. E-sigaréts oedd y sigarets roedden nhw'n defnyddio. Mae'r un cwynion wedi codi yng Nghaerdydd, Abertawe a Wrecsam.

Cafodd e-sigaréts eu cyflwyno gyntaf yn 2007. Yn gynharach y mis yma dywedodd Gweinidogion Llafur ei bod yn ystyried eu gwahardd mewn llefydd cyhoeddus. Mae'r Gweinidog Iechyd wedi dweud yn y gorffennol ei fod yn pryderu bod sigarennau electroneg yn ail-normaleiddio ysmygu.

Bydd y cynnig i'w gwahardd mewn adeiladu a cherbydau sydd yn berchen i Gyngor Caerffili yn cael ei drafod gan y cabinet. Mae'n rhaid i gabinet y cyngor gytuno ar y cynnig cyn y bydd modd iddo gael ei gyflwyno.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol