Canolfannau garddio: rhoi'r dewis i fod ar agor
- Cyhoeddwyd

Mae Llywodraeth San Steffan yn cael ei hannog i roi diwedd ar gyfyngiadau sydd yn atal canolfannau garddio rhag aros ar agor ddydd Sul y Pasg.
Mae cyfreithiau masnachu yn golygu bod canolfannau mwy o faint a siopau sydd yn fwy na 3,000 troedfedd sgwar yn gorfod cau'r diwrnod yma ac ar ddydd Nadolig.
Yn ol y Gymdeithas Masnachu Garddwriaethol mae'r rheolau yn henffasiwn ac yn costio'r diwydiant miliynau o bunnoedd. Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn dweud nad oes ganddi unrhyw gynlluniau ar hyn o bryd i newid y rheolau.
Mae canolfannau garddio llai yn medru bod ar agor trwy'r flwyddyn a dyw'r rheolau ddim yn berthnasol i'r Alban.
Pe byddai yna unrhyw newid yn y gyfraith mi allai hyn gael ei wrthwynebu gan grwpiau crefyddol a gan weithwyr a fyddai yn cael un diwrnod yn llai o wyliau.
Ar eu colled?
Mae Raoul Curtis-Machin o'r Gymdeithas Masnachu Garddwriaethol wedi dweud wrth y BBC bod canolfannau garddio yn colli cymaint â £5,500 yr un am eu bod ar gau.
Mae'r gymdeithas yn dweud y byddai agor dydd Sul y Pasg yn golygu y byddai yn bosib i bobl "fwynhau canolfannau garddio am gyfnod hirach".
Dywedodd llefarydd ar ran yr adran busnes, arloesi a sgiliau fod y rheolau dydd Sul wedi ei llacio yn ystod cyfnod y Gemau Olympaidd yn 2012 fel bod busnesau yn medru "elwa o'r cyfloedd" yr oedd y gemau yn cyflwyno.
"Pe byddai'r llywodraeth eisiau edrych ar hyn eto mi fyddai yna gyfle am drafodaeth ehangach am y byddai angen deddfwriaeth newydd.
"Does gan y llywodraeth ddim cynlluniau ar hyn o bryd i ymlacio'r rheolau."