Datganoli cyflogau athrawon yn "anochel" medd UCAC

  • Cyhoeddwyd
Classroom sceneFfynhonnell y llun, Thinkstock
Disgrifiad o’r llun,
Roedd adroddiad Silk yn argymell datganoli cyflogau athrawon

Mae'n "anochel" y bydd penderfyniadau am gyflogau ac amodau athrawon yn cael eu datganoli i Gymru yn ôl un undeb athrawon.

Mae UCAC yn dweud bod Llywodraeth Cymru yn y gorffennol wedi "claddu ei phen yn y tywod" trwy wrthwynebu newid i'r model cyflogau cenedlaethol ar gyfer Cymru a Lloegr.

Ond mae Llywodraeth Cymru yn ddiweddar wedi dweud y byddai yna fanteision i newid y drefn. Mae undebau athrawon eraill yn ofni y byddai yn arwain at fwy o fiwrocratiaeth a chyflogau llai.

Llywodraeth Cymru sydd yn gyfrifol am addysg yng Nghymru ond Llywodraeth Prydain sydd yn penderfynu cyflogau ac amodau gwaith athrawon.

Roedd gweinidogion Cymru wedi dweud mai dyma sut y dylai pethau aros am y byddai'r system yn fwy teg a chost effeithiol. Er hynny roedd adroddiad diweddar Comisiwn Silk, oedd yn edrych ar bwerau'r Cynulliad, yn argymell datganoli'r mater i Gymru.

Mi ddywedodd Huw Lewis, Y Gweinidog Addysg yn y Senedd y mis yma ei fod yn gyffredinol yn croesawu'r argymhelliad.

Dywedodd Elaine Edwards o UCAC ar raglen BBC Radio Wales Sunday Supplement mai dyma fyddai'r, "sefyllfa orau ar gyfer athrawon Cymru".

"Dw i yn credu bod e yn anochel y bydd cyflogau ac amodau athrawon, y penderfyniadau, yn cael eu datganoli i Gymru."

Athrawon yn "amheus"

Ond mae ysgrifennydd NUT Cymru, David Evans yn dweud y byddai datganoli cyflogau ac amodau yn golygu y byddai cyflogau Cymru yn "mynd lawr".

"Fyddwn i jest ddim yn gallu fforddio hyn. Rydyn ni yn gwybod bod y setliad datganoli yn golygu ein bod ni yn cael £1.7b yn llai eleni na'r hyn oedd e yn 2010/11. Gyda'r math yma o ddiffyg mae'n rhaid i rywun dalu rhywbryd ac mi allai olygu mai athrawon fyddai ar eu colled."

Ond mi ddywedodd y byddai'r undeb yn siarad gyda Llywodraeth Cymru er lles aelodau'r undeb. "Mae'n well gyda ni ar hyn o bryd i drafod y peth gyda Llywodraeth San Steffan. Nhw sydd gyda'r cyfrifoldeb dros y mater. Ond rydyn ni yn gwneud paratoadau os bydd yr anochel yn digwydd."

Mae undeb ATL Cymru yn dweud bod y mwyafrif o athrawon yn amheus o'r newid. Mi fydden nhw angen eu hargyhoeddi mai dyma'r opsiwn gorau meddai ATL Cymru.