Criwiau yn taclo cannoedd o dannau gwair ers mis Ebrill
- Cyhoeddwyd

Mae gweithwyr tân wedi diffodd o leiaf 484 o dannau gwair yng Nghymru ers dechrau Ebrill.
Mae Gwasanaeth canolbarth a gorllewin Cymru wedi gorfod diffodd 200 tra bod y gweithwyr eraill wedi derbyn galwadau ar gyfer 284 o dannau.
Dywedodd Gwasanaeth De Cymru ei bod wedi derbyn 100 o alwadau ynglyn â thannau gwair ers Ebrill 15.
Wythnos diwethaf mi ddywedon nhw mai £850,000 oedd y gost o daclo tannau gwair yn yr ardal ers dechrau'r flwyddyn.
Jennie Griffiths, pennaeth y ganolfan rheoli tanau yng ngwasanaeth de Cymru gyhoeddodd y ffigwr yma ar Twitter.
Mi ychwanegodd y dylai pobl ddweud wrth y gweithwyr tân os ydyn nhw yn gweld tannau gwair.
Ymhlith y tannau maen nhw wedi gorfod diffodd oedd tân bwriadol ar fynydd Caerffili fore Sul y Pasg a thân arall wedi ei gynnau yn fwriadol ar fynydd Rhydri, pentref yng Nghaerffili nos Sadwrn.
Roedd yn rhaid i Wasanaeth Canolbarth a Gorllewin Cymru daclo tanau ym Mrynaman ac ym Maglan yng Nghastell Nedd Port Talbot ddydd Sadwrn.
Doedd Gwasanaeth Tân Gogledd Cymru ddim yn gallu darparu ffigyrau.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Mawrth 2011