Trafnidiaeth gyhoeddus: Chwilio am syniadau newydd
- Cyhoeddwyd

Mae cynghorau mewn ardaloedd gwledig wedi derbyn arian gan Lywodraeth Cymru i geisio canfod ffyrdd mwy effeithiol o gynnig trafnidiaeth gyhoeddus.
Cyngor Bro Morgannwg a Cheredigion yw'r ddau gyngor fydd yn derbyn £100,000 yr un am flwyddyn.
Yn ôl Llywodraeth Cymru mae'r rhaid i'r cwmnïau sy'n darparu gwasanaethau trafnidiaeth feddwl am ffyrdd newydd ac arloesol er mwyn ateb yr heriau maen nhw'n eu hwynebu.
Ond mae'r Ceidwadwyr wedi beirniadu'r cynllun, gan ddadlau bid £24 miliwn wedi cael ei dorri o gyllidebau'r cwmnïau sy'n rhedeg gwasanaethau bws a bod £100,000 yn gyfystyr â "phlastr".
Syniadau
Mi fydd Grŵp Cynghori ar Bolisi Bysiau yn pwyso a mesur y treialon ar ddiwedd y flwyddyn, tra bydd Cyngor Bro Morgannwg yn sefydlu tîm fydd yn edrych ar sut i leihau costau.
Un posibilrwydd fydd yn cael ei ystyried yw cynnig gostyngiad yn y pris ar gyfer pobl ifanc a phobl sydd yn ddi-waith a ddim yn derbyn unrhyw addysg neu hyfforddiant.
Mi fyddan nhw hefyd yn dechrau system archebu ac yn cynnig amserlennu ar gyfer trafnidiaeth gyhoeddus.
Yng Ngheredigion bwriad y cyngor yw cynnig gwell trafnidiaeth yn benodol yn ardal Tregaron. Bydd cerbydau gan y cyngor yn cael eu defnyddio ar gyfer pobl sydd ag anghenion iechyd.
Bydd cynllun yn cychwyn fel bod apwyntiadau cleifion yn medru cyd-fynd efo gwasanaethau bysiau. Posibilrwydd arall ydy cynnig tocyn rhatach i bobl ifanc rhwng 16 a 21 oed.
Mi fydd y cynghorau yn rhannu eu casgliadau gyda'i gilydd a hefyd yn cydweithio ar syniadau. Ar ddiwedd y flwyddyn mi fydd Grŵp Cynghori ar Bolisi Bysiau yn cynghori Llywodraeth Cymru ynglŷn â pha gynlluniau allai gael eu cyflwyno ar draws Cymru.
'Arloesol'
Yn ôl y Gweinidog Economi, Edwina Hart mae creu'r treialon yma yn syniad da.
"Rwyf am sicrhau fod pawb yng Nghymru yn gallu cael mynediad i swyddi a gwasanaethau drwy drafnidiaeth gyhoeddus ddibynadwy," meddai.
"Mae'n rhaid i ni edrych ar ffyrdd newydd ac arloesol o ddarparu'r gwasanaethau hyn, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig, drwy rwydwaith cynaliadwy ac effeithiol. Rwy'n falch bod Cynghorau Bro Morgannwg a Cheredigion yn gweithio gyda ni i ddatblygu'r gwaith hanfodol hwn.
"Mae enghreifftiau o arfer da yng Nghymru eisoes y gellid eu rhoi ar waith yn ehangach, megis y cynllun Bwcabus yng Ngheredigion a Sir Gaerfyrddin.
"Ond gallem hefyd wneud defnydd gwell o'r cyfleusterau a'r gwasanaethau presennol o fewn yr awdurdodau lleol. Rwy'n edrych ymlaen at dderbyn cyngor y Grŵp Cynghori ar Bolisi Bysiau ar ba un o'r syniadau hyn y gellid eu defnyddio ledled Cymru."
'Fflanel wlyb'
Er ei fod yn "croesawu" yr arian sydd wedi ei roi i'r cynllun, mae Arweinydd y Ceidwadwyr yn y Cynulliad, Andrew RT Davies, wedi disgrifio'r buddsoddiad fel "dim mwy na phlaster".
Ychwanegodd Mr Davies, sy'n Aelod Cynulliad dros Ganol De Cymru: "Mae gwasanaethau bws cefn gwlad wedi cael eu dinistrio gan doriadau o dros £24 miliwn gan Lywodraeth Cymru, ac mae'r effaith yma yn y Fro wedi bod yn arbennig o ddifrifol.
"Er bod yr arian i'w groesawu, mae'n ffracsiwn bitw o'r arian sydd wedi ei golli hyd yn hyn gan gwmnïau, sydd o ganlyniad wedi tynnu eu gwasanaethau o nifer o lwybrau lleol.
"Mae'n gofyn llawer i gyngor y Fro i redeg gwasanaethau ar y swm yma - fel gyrru rhywun i ddiffodd tân mewn coedwig gyda fflanel wlyb."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Ebrill 2014
- Cyhoeddwyd20 Mawrth 2014
- Cyhoeddwyd20 Chwefror 2014
- Cyhoeddwyd11 Rhagfyr 2013