Teyrnged i 'fyfyrwraig wych'

  • Cyhoeddwyd
Yuan Meng QuFfynhonnell y llun, South Wales Police
Disgrifiad o’r llun,
Roedd Yuan Meng Qu wedi dod i ymweld ag Abertawe gyda'i mam

Mae tad merch 21 oed o China a fu farw mewn damwain yn Abertawe wedi disgrifio ei ferch fel "myfyrwraig wych" ac yn dweud bod na wagle wedi ei adael.

Roedd Yuan Meng Qu, oedd yn cael ei galw yn MengMeng gan ei theulu, yn fyfyrwraig yn Llundain.

Mi fuodd hi farw mewn damwain car nos Iau ar Ffordd Langdon. Dywedodd ei thad Ji Bin Qu bod ganddi "galon bur".

Dywedodd y dyn busnes o China ei bod hi'n ferch "annibynol" oedd wedi teithio i astudio ym Mhrydain ar ben ei hun pan oedd hi'n 18 oed.

Wrth dalu teyrnged iddi dywedodd nad oedd yn medru coelio ei bod hi wedi marw. Roedd hi'n ferch "benderfynol" meddai oedd wedi ennill sawl gwobr addysgol. "Yn syml iawn roedd hi'n fyfyrwraig wych" meddai.

"Mi oedd hi yn caru ei mam a fi yn annwyl. Roedd ganddi galon bur. Mi fydd na wagle mawr ym mywydau pawb oedd yn adnabod MengMeng am fod ganddi egni ac roedd hi wastad yn edrych yn bositif ar fywyd."

Roedd hi wedi bod yn ymweld ag Abertawe gyda'i mam. Ond doedd ei mam ddim yn y cerbyd pan ddigwyddodd y ddamwain.