Newidiadau i gyfiawnder teuluol yn dod i rym

  • Cyhoeddwyd
Young girl on stairs hiding her face
Disgrifiad o’r llun,
Dywedodd adolygiad yn 2011 bod oedi gormodol yn "tanseilio dyfodol" plant bregus

Fe ddywed gweinidogion y bydd newidiadau i'r system gyfiawnder teuluol yng Nghymru a Lloegr sy'n dod i rym ddydd Mawrth yn rhoi lles plant wrth galon y system.

Mae'r mesurau newydd yn cynnwys un Llys Teuluol yn lle'r system tri cham presennol, ac fe fydd cyfyngiadau amser yn weithredol am achosion lle mae plant yn cael eu gosod mewn gofal.

Daeth adolygiad annibynnol yn 2011 o'r casgliad nad oedd "system go iawn" yn bodoli mewn gwirionedd.

Dywedodd Syr James Munby, Llywydd yr Adran Deuluol, mai'r newidiadau oedd y mwyaf mewn cenhedlaeth.

Tanseilio dyfodol

Mae llysoedd teuluol yn clywed oddeutu 270,000 o achosion newydd bob blwyddyn yn delio gyda materion fel ymyrraeth awdurdodau lleol, ysgariad, trais yn y cartref a mabwysiadu.

Dywedodd yr adolygiad yn 2011 bod dyfodol plant bregus yn cael eu tanseilio gan oedi gormodol, gydag achosion gofal a goruchwyliaeth yn cymryd 56 wythnos ar gyfartaledd.

Er bod yr amser yna wedi cwtogi ers hynny, mae'r newidiadau yn ateb llawer o'r pryderon, gan gynnwys mesurau i sicrhau bod:

  • Bydd achosion gofal yn cael eu cwblhau o fewn chwe mis mewn un Llys Teuluol, fydd yn cymryd lle'r system tri cham presennol;
  • Bydd cyplau sy'n gwahanu yn gorfod mynychu sesiwn ymwybyddiaeth cymodi cyn mynd ag anghydfodau am arian neu eu plant i'r llys;
  • Bydd cyfyngu ar faint o dystiolaeth arbenigol sy'n cael ei defnyddio mewn achosion sy'n ymwneud â phlant, ac ond yn cael ei defnyddio pan fod angen er mwyn datrys yr achos yn deg.

Fe fydd newidiadau hefyd i'r modd y mae plant yn cael eu trin mew achosion teuluol, ac fe fydd labeli megis "cyswllt" a "preswyliad" yn cael eu diddymu oherwydd canfyddiad bod y termau'n canolbwyntio ar hawliau'r rhieni yn hytrach na'r plentyn.

Nod arall i'r newidiadau fydd sicrhau bod barnwr o'r lefel cywir yn cael ei ddefnyddio ar gyfer achosion Llys Teuluol penodol, a bod yr achos yn cael ei gynnal yn y lleoliad mwyaf addas.

'Chwyldro'

Dywedodd Syr James Munby: "Mae heddiw'n nodi'r diwygiad mwyaf i'r system gyfiawnder teuluol y mae unrhyw un ohonom ni wedi ei weld yn ein bywydau proffesiynol.

"O edrych ar y diwygiadau yn eu cyfanrwydd maen nhw'n gyfystyr â chwyldro. Mae yma newid - oedd yn gwbl hanfodol - newid sylfaenol yn niwylliant y llysoedd teuluol.

"Rwyf wedi ymweld â phob canolfan gofal er mwyn gweld drosof fy hun sut mae'n cael ei ffurfio.

"Mae'r ymweliadau yma wedi pwysleisio i mi bod pawb yn y system gyfiawnder teuluol wedi cofleidio'r broses o ddiwygio gyda brwdfrydedd a phenderfyniad: awdurdodau lleol, gwasanaethau cefnogol, staff y llysoedd, barnwyr ac ynadon a phawb arall yn y swyddi cyfreithiol."

Ychwanegodd y Gweinidog Cyfiawnder Teuluol Simon Hughes bod plant "wedi diodde' oedi gormodol a brwydrau teuluol gwrthdrawiadol" am rhy hir.

"Bydd ein diwygiadau yn cadw teuluoedd i ffwrdd o effeithiau negyddol brwydrau neu oedi yn y llysoedd ac yn sicrhau pan fod achosion y mynd i'r llys eu bod yn cael eu datrys yn y modd lleiaf niweidiol," meddai.