Giggs yn rheolwr dros dro

  • Cyhoeddwyd
Ryan Giggs
Disgrifiad o’r llun,
Ryan Giggs fydd yn dewis y tîm nes i reolwr newydd gael ei ddewis

Mae clwb Manchester United wedi cadarnhau mai Ryan Giggs fydd yn cymryd rheolaeth o'r clwb tan i'r rheolwr llawn nesaf gael ei ei benodi, wedi i David Moyes adael ei swydd yn gynharach.

Pan ddechreuodd y sibrydion am ddyfodol Moyes brynhawn Llun, roedd rhai cwmnïau bwci yn dweud mai Giggs oedd y ffefryn i'w olynu yn barhaol.

Ond bellach mae'r farn wedi newid, gyda Louis van Gaal o'r Iseldiroedd nawr yn cael ei ystyried i fod yn fwy tebygol o gael y swydd llawn amser.

Mae Giggs wedi ennill 64 o gapiau i Gymru ac wedi torri llu o recordiau dros ei glwb Manchester United ers ei ymddangosiad cyntaf yn nhymor 1990/91.

Mae e wedi sgorio 114 o goliau mewn 671 o gemau i United, ac roedd eisoes yn aelod o dîm hyfforddi'r clwb o dan reolaeth Moyes wedi iddo ddechrau casglu cymwysterau hyfforddi cyn dechrau'r tymor presennol.

Er yr holl bethau mae wedi ei gyflawni fel chwaraewr, hwn yw'r tro cyntaf iddo gael cyfrifoldebau rheoli.

'Meithrin i'r dyfodol'

Ond mae un cefnogwr oedd yn y gêm rhwng Everton a Manchester United ddydd Sul, David James, yn credu ei bod yn rhy gynnar i ddyrchafu Giggs i'r swydd yn llawn amser.

Dywedodd: "Ar un llaw mae'n anodd cefnogi record David Moyes er fy mod i wedi cefnogi ei benodiad.

"Fe wnaeth etifeddu tîm oedd yn bencampwyr, ond roedd y perfformiad yn Goodison ddydd Sul yn ddienaid a digyffro a hynny yn erbyn cyn glwb Moyes.

"Ond o weld pwy sydd yn y ffrâm, fe fyddai'n well gen i weld [Louis] van Gaal yn cymryd yr awenau yn barhaol, ond yn meithrin Ryan Giggs fel rheolwr llawn amser ar gyfer y dyfodol."

Yn ôl cefnogwr arall, Huw Griffiths, nid Giggs yw'r unig Gymro ddylai gael ei ystyried ar gyfer y swydd.

"Efallai ei bod hi'n bryd i Moyes fynd, ond does neb wedi son am Mark Hughes chwaith.

"Mae Sparky [llysenw Hughes] wedi bod yn chwaraewr gwych yng nghrys United ac mae o wedi bod yn llwyddiannus iawn mewn mwy nag un lle fel rheolwr ac mae'n rhaid ei ystyried e hefyd."

Mae Hughes ar hyn o bryd yn rheolwr Stoke City, ac mae posibilrwydd y bydd y clwb yn gorffen yn eu safle gorau erioed ers ffurfio Uwchgynghrair Lloegr yn 1992.