Cyhuddo tri swyddog Cyngor Caerffili
- Cyhoeddwyd

Mae tri o uwch-swyddogion Cyngor Caerffili wedi ymddangos gerbron llys i wynebu cyhuddiadau o gamymddwyn mewn swydd gyhoeddus.
Y tri yw Prif Weithredwr y cyngor, Anthony O'Sullivan, ei ddirprwy Nigel Barnett, a phennaeth gwasanaethau cyfreithiol yr awdurdod Daniel Perkins.
Mae'r tri yn wynebu'r un cyhuddiad, sef eu bod "wedi camymddwyn yn fwriadol a heb esgus digonol drwy weithredu gyda'r bwriad o osgoi darpariaeth y Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 a rhwystro craffu priodol o broses cyflog uwch swyddogion".
Fe ddaw'r cyhuddiadau yn dilyn digwyddiadau honedig rhwng Mehefin 1 a Hydref 10, 2012.
Daeth y cyhuddiadau yn dilyn ymchwiliad yr heddlu i godiadau cyflog a roddwyd i uwch swyddogion Cyngor Caerffili.
Heddlu Avon a Gwlad yr Haf fu'n delio gyda'r achos gan fod gan Heddlu Gwent berthynas weithio gyda'r cyngor.
Clywodd y llys y bydd yr achos yn eu herbyn yn cael ei glywed yn Llys y Goron Bryste, a gorchmynnodd y barnwr Joti Bopa-Rai i'r tri ymddangos yno ar Fai 13.
Yn ystod y gwrandawiad byr, siaradodd y tri diffynnydd wrth gadarnhau eu henwau, eu hoed a'u cyfeiriad, ac fe gafon nhw'u rhyddhau ar fechnïaeth ddiamod.
Straeon perthnasol
- 18 Chwefror 2014
- 13 Chwefror 2014
- 27 Medi 2013