Dynion 'wedi derbyn llai o dâl'
- Cyhoeddwyd

Mae 18 o weithwyr Prifysgol y Drindod Dewi Sant wedi honni bod eu cyflogwr wedi gwahaniaethu yn eu herbyn ar sail rhyw.
Yn ôl y dynion, sy'n gweithio fel gofalwyr a staff cynnal a chadw, fe ddylen nhw fod wedi derbyn yr un tâl â'u cyd-weithwyr benywaidd gan fod y swyddi ar yr un raddfa gyflog.
Yn y gwrandawiad yng Nghaerdydd maen nhw'n ceisio hawlio cyfanswm o £700,000 mewn cyflogau wrth ddadlau y dylai'r arian fod wedi ei dalu iddyn nhw dros gyfnod o chwe blynedd.
Clywodd y tribiwnlys fod anghydfod wedi codi pan newidiodd eu cytundebau o leiafswm o 45 awr yr wythnos i 37 awr.
Roedd y brifysgol wedi penderfynu gwarantu wyth awr ychwanegol i'r gweithwyr ond y bydden nhw'n derbyn tâl goramser.
Yn llai
Ond pan newidiodd y cytundeb sylweddolodd y gweithwyr fod eu cyfradd bob awr yn llai nag un menywod cyfatebol.
Gofynnodd Peter Wallington QC, sy'n cynrychioli'r brifysgol, i Robert Cooze, 50 oed o Abertawe: "Mae llawer o sôn am wahaniaethu yn erbyn menywod ond mae honiadau yn erbyn dynion yn brin iawn.
"Ydych chi wir yn gofyn i ni gredu bod gwahaniaethu yn eich erbyn am eich bod yn ddynion?"
Yr ateb oedd: "Odw."
Dywedodd Mr Wallington ei fod yn "achos cymhleth" a'i fod am ddadlau bod gan y brifysgol amddiffyniad o dan y Ddeddf Gydraddoldeb.
Clywodd y tribiwnlys ddatganiad yr uwchswyddog prifysgol Yr Athro David Warner.
Dywedodd: "Dylid nodi hyn, wrth warantu'r wyth awr ychwanegol roedd y gweithwyr yn cael mwy o gyflog a mwy o bensiwn."
'Heb weithredu'
Ond dywedodd Caroline Musgrove ar ran y gweithwyr fod Prifysgol Fetropolitan Abertawe wedi llofnodi fframwaith Prydeinig o blaid "bod yn deg ac yn dryloyw".
"Y ffaith yw nad oedden nhw wedi gweithredu hyn."
Prifysgol Fetropolitan Abertawe oedd yn cyflogi'r dynion tan iddi uno â Phrifysgol y Drindod Dewi Sant ym mis Awst 2013.
Mae achosion wyth dyn arall wedi cael eu "rhewi" nes i ganlyniad y tribiwnlys presennol gael ei gyhoeddi.
Mae'r gwrandawiad yn parhau.