Cyhoeddi enw wedi marwolaeth Gwbert
- Cyhoeddwyd
Mae'r heddlu wedi cyhoeddi enw'r gŵr fu farw yn dilyn damwain yng Ngwbert, Ceredigion ar Ebrill 19.
Bu farw Christopher Nigel Lawrence, 51, wedi i'w feic modur wrthdaro gyda thrỳc oedd yn tynnu cwch ar yr B4548 am 1:19yh.
Roedd Mr Lawrence yn frodor o Aberteifi yng Ngheredigion.
Brynhawn Mawrth cafodd cwest i'r farwolaeth ei agor gan y crwner Mr PL Brunton, ac fe gafodd ei ohirio tan ddyddiad fydd yn cael ei benderfynu'n hwyrach.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Ebrill 2014