Prifysgol Caerdydd i aros gyda'r CBI
- Cyhoeddwyd

Mae Prifysgol Caerdydd yn bwriadu parhau i fod yn aelod o Gydffederasiwn Diwydiant Prydain (CBI) er gwaetha'r ffaith bod y corff wedi cofrestru fel cefnogwr swyddogol i'r ymgyrch yn erbyn annibyniaeth i'r Alban.
Mae prifysgolion Caeredin, Glasgow ac Aberdeen wedi penderfynu na allan nhw barhau i fod yn rhan o'r sefydliad, gan eu bod yn awyddus i barhau i fod yn ddiduedd ynghylch y refferendwm.
Fe wnaeth y CBI - grwp sy'n lobio dros fusnes - gofrestru i ymgyrchu dros bleidlais Na ddydd Gwener, fydd yn galluogi iddyn nhw wario £150,000 ar geisio dwyn perswad ar bobl i bleidleisio yn erbyn sefydlu Alban annibynnol.
Maen nhw'n dadlau nad yw'r achos economaidd dros annibyniaeth wedi cael ei wneud.
Yn ôl Llywodraeth yr Alban, sydd ddim yn cytuno, mae'n "gwbl amhriodol i asiantaethau llywodraethol barhau i fod yn aelodau o'r CBI".
Mae Prifysgol Glasgow wedi dweud eu bod wedi gadael er mwyn "aros yn ddiduedd", ac mae Prifysgol Caeredin wedi gadael er mwyn parhau i fod yn "gwbl niwtral".
Ond does gan Prifysgol Caerdydd ddim bwriad o adael.
Dywedodd llefarydd ar eu rhan: "Mae Prifysgol Caerdydd yn aelod o'r CBI.
"Mae'r penderfyniad i gofrestru fel cefnogwr o'r ymgyrch Na yn refferendwm yr Alban yn fater i'r CBI a'i aelodau.
"Fel prifysgol, rydym yn parhau i fod yn ddiduedd. Dydyn ni heb adael y CBI a dydyn ni ddim yn ystyried gwneud hynny."
Dyw prifysgolion eraill o Gymru heb wneud sylw hyd yn hyn.