Blwyddyn o garchar i filwr am ymosodiad
- Cyhoeddwyd

Mae môr-filwr wedi derbyn dedfryd o 12 mis o garchar am ymosod ar ddwy ddynes a chwsmer mewn parlwr tylino ar ddiwrnod Nadolig.
Doedd Nathan Bantick, 22, o Gastell-nedd ddim yn fodlon gyda'r gwasanaeth roedd wedi ei dderbyn.
Cafodd ei ddal yn ymosod gan y camerâu teledu cylch cyfyng.
Clywodd Llys y Goron Abertawe bod Bantick a'i frawd wedi ymweld â pharlwr Park Lane am 3:00am ar Ragfyr 25.
Ymosod ar dri
Roedd Nathan Bantick wedi talu am sesiwn 30 munud o dylino, ond pan ddaeth y sesiwn i ben, fe wylltiodd.
Dywedodd yr erlynydd, James Hartson: "Fe ddechreuodd weiddi ei fod heb dderbyn ei 30 munud llawn a'i fod yn cael ei dwyllo.
"Fe waeddodd mewn modd ymosodol a bygwth taro dwy o'r tylinwyr os nad oedden nhw'n rhoi ei arian yn ôl iddo.
"Fe ddyrnodd y wal blastig wrth ben un o'r merched, gafael ynddi a'i gwthio yn erbyn wal.
"Yna fe afaelodd yn ei gerdyn adnabod milwrol gan ddweud, 'pwy ydych chi'n meddwl wnaiff yr heddlu gredu, chi neu fi?'"
Clywodd y llys bod Jeremy Rees, oedd yn gwsmer yn y parlwr, wedi dweud wrth Mr Bantick: "Allwch chi ddim gwneud hynny i ferched."
'Brawychus'
Wedi hyn fe wnaeth Bantick ymosod ar Mr Rees a'r ddwy ferch gan ddyrnu'r ddwy ohonyn nhw yn eu pennau.
Fe wnaeth Mr Rees ddioddef niwed parhaol i'w nerfau o ganlyniad i'r digwyddiad.
Fe wnaeth Bantick bledio'n euog i'r cyhuddiadau o ymosod ac achosi difrod gwerth £875 i'r parlwr.
Dywedodd y barnwr, Keith Thomas wrtho: "Roedd hwn yn enghraifft frawychus o ymddygiad ymosodol.
"Fe wnaethoch chi ddangos eich cerdyn adnabod milwrol er mwyn bygwth a bwlio, cyn dechrau ymosod mewn modd didrugaredd a thu hwnt i reolaeth.
"Fe wnaethoch chi gicio Mr Rees yn ei ben wrth iddo orwedd yno yn ddiamddiffyn, a hynny er mwyn dial."
Roedd uwch-swyddog Bartick yn bresennol yn y llys i'w weld yn cael ei ddedfrydu i 12 mis o garchar a chlywodd y llys ei fod nawr yn wynebu cael ei ddiarddel o'r fyddin.