Pornograffi 'wedi arwain at dreisio plentyn'

  • Cyhoeddwyd

Mae llys wedi clywed ei bod hi'n debygol mai pornograffi oedd wrth wraidd achos honedig o dreisio yn ymwneud â bachgen 10 oed mewn ysgol yn y gogledd.

Dywedodd yr erlynydd, Karl Scholz, wrth Lys y Goron yr Wyddgrug fod y diffynnydd yn "actio allan" yr hyn roedd wedi ei weld.

Yn ôl Mr Scholz, roedd y ddau fachgen, oedd yn ddisgyblion yn yr un ysgol, wedi gwylio pornograffi.

Mae'r diffynnydd, sydd bellach yn 12 oed, wedi pledio'n ddieuog i dreisio ac annog y bachgen arall i gymryd rhan mewn gweithgaredd rhywiol ddwy flynedd yn ôl.

'Cas ac anfoesgar'

Ym Mawrth 2013 fe wnaeth athro siarad gyda'r achwynydd wedi sïon yn yr ysgol ynglŷn â'i ymddygiad rhywiol.

Bryd hynny fe ddywedodd y bachgen wrth athrawon beth yr honnir y gwnaeth y diffynnydd iddo.

Y noson honno fe ddywedodd wrth ei rieni ac fe gafodd y mater ei basio i'r heddlu.

Dywedodd y bachgen wrth Heddlu Gogledd Cymru ei fod yn casáu'r diffynnydd, gan ddweud ei fod yn ymddwyn fel bachgen da o flaen athrawon ond yn "gas ac anfoesgar" ar yr iard.

Dywedodd fod y diffynnydd yn rhegi arno ac yn ei alw yn hoyw.

'Cwestiwn anghyffredin'

Yn ôl Mr Scholz, fe wnaeth y bachgen ddechrau cadw draw o'r iard yn ystod amseroedd egwyl, gan gerdded nôl ac ymlaen y tu allan i doiledau'r bechgyn ar ei ben ei hun.

Clywodd y llys fod y digwyddiad honedig cyntaf wedi bod pan ofynnodd y diffynnydd i'r bachgen mewn dosbarth a oedd eisiau cael rhyw gydag ef.

"Roedd yn gwestiwn anghyffredin i fachgen 10 oed i ofyn i un arall," meddai Mr Scholz.

Dywedodd y bachgen ei fod wedi ymateb drwy ddweud "no way" a'i fod yn credu mai jôc ydoedd.

Wedi'r wers fe aeth y bachgen i'r toiled lle mae'n honni iddo gael ei dreisio gan y diffynnydd.

Clywodd y llys fod y bachgen wedi dweud wrth y diffynnydd i beidio, a'i fod wedi crafu ei fraich.

Rhwystro

Wnaeth o ddim dweud wrth neb wedyn oherwydd ei fod yn teimlo embaras a'i fod yn ofni y byddai pobl yn ei alw'n hoyw.

Mewn ail ddigwyddiad honedig, fe wnaeth y diffynnydd geisio tynnu trowsus y bachgen wrth iddo olchi ei ddwylo, ond fe wnaeth y bachgen ei rwystro.

Honnwyd fod y diffynnydd wedi gofyn: "Pam ddim? Mae'n hwyl."

Yn ystod cyfweliadau gyda'r heddlu, cyfaddefodd y diffynnydd ei fod wedi bod yn gas i'r achwynydd ond dywedodd na wnaeth ei fwlio.

Gwadodd ei fod erioed wedi gofyn am ryw na bod unrhyw beth rhywiol wedi digwydd rhyngddyn nhw.

Mae'r achos yn parhau.