Hebrwng pump o ymwelwyr i lawr Cadair Idris
- Cyhoeddwyd

Mae pump o ymwelwyr o Surrey wedi cael eu hachub o Gadair Idris oherwydd iddynt fynd ar goll mewn cymylau isel dros nos.
Bu'n rhaid i wirfoddolwyr Tîm Chwilio ac Achub Aberdyfi ddringo'r mynydd bore dydd Mercher, yn dilyn galwad gan y cerddwyr am 5.45.
Defnyddiodd yr achubwyr ap ffôn symudol i'w darganfod, cyn eu hebrwng i lawr y mynydd erbyn 9.30.
Roedd y grŵp wedi bod yn cerdded y mynydd ger Dolgellau sy'n 3,000 troedfedd o uchder, trwy'r dydd ac roedd un ohonynt wedi brifo ei ben-glin.
Cywir i'w galw
Dywedodd Graham O'Hanlon o dîm chwilio ac achub Aberdyfi: "Roedd y grŵp gyda'r cyfarpar priodol ond roeddynt wedi colli hyder yn y cymylau mewn man serth ac yna fe wnaethant alw am gymorth.
"Yn yr amgylchiadau yma fe wnaethant y peth cywir.
"Mae'n llawer gwell i'w helpu i ddod i lawr o glogwyni yn hytrach na'u darganfod ar waelod clogwyn."