Tân mewn adeilad gwag yn Abertawe
- Cyhoeddwyd
Mae'r adeilad ar Brunel Way yn ardal y Morfa, ochr arall Afon Tawe o Stadiwm Liberty.
Mae dros 25 o ddiffoddwyr yn taclo tân mewn adeilad mawr gwag yn Abertawe.
Fe gafodd Gwasanaeth Tân y Canolbarth a'r Gorllewin eu galw tua 1 o'r gloch heddiw.
Mae'r adeilad ar Brunel Way yn ardal y Morfa, ochr arall Afon Tawe o Stadiwm Liberty.
Mae'r diffoddwyr yn defnyddio ysgol estynnol ac wedi dod â thanc dŵr anferth i'r safle.