Dirwy i feddyg am beidio trwyddedu eiddo
- Cyhoeddwyd

Yn Llys Ynadon Caerdydd mae Iestyn Glynog Davies, meddyg o Frynaman, Sir Gâr, wedi cael dirwy am beidio â thrwyddedu tŷ yn Stryd Tewkesbury yng Nghaerdydd.
Roedd angen trwyddedu o dan Ddeddf Tai 2004 er mwyn sicrhau bod yr eiddo yn cyrraedd yr holl anghenion iechyd a diogelwch.
Fe gafodd ddirwy o £1500 a bydd rhaid talu costau o £290.
Clywodd y llys fod Cyngor Caerdydd wedi anfon ffurflen gais Tai Amlfeddiannaeth at Iestyn Glynog Davies a'i dad, John Glynog Davies, y darlledwr a'r cynghorydd lleol yn Sir Gâr, oedd yn gyd-berchennog y tŷ.
Roedd y cyngor yn dweud eu bod wedi ceisio sawl gwaith dros bedair blynedd i gael y perchnogion i ddilyn y ddeddf ond nid oedd y ddau wedi cyflwyno cais.
Cafodd y cyhuddiad yn erbyn y tad ei dynnu'n ôl oherwydd daeth i'r amlwg nad oedd wedi delio'n uniongyrchol â 23 Tewkesbury Street.