Iawndal £450,000 i ddyn, 23 blynedd wedi methiant ysbyty
- Cyhoeddwyd

Mae dyn o'r Coed Duon, Sir Caerffili, wedi derbyn £450,000 o iawndal, 23 blynedd wedi i feddygon wneud camgymeriadau yn ystod ei enedigaeth.
Fe gafodd Jamie Lewis ei eni yn methu defnyddio'i fraich chwith.
Roedd cyfreithwyr wedi profi bod y tîm meddygol yn Ysbyty Brenhinol Gwent, Casnewydd, wedi defnyddio "grym eithafol" yn ystod yr enedigaeth, gan achosi niwed i'r nerfau yn ei wddf ac, yn sgil hynny, achosi parlys yn ei fraich chwith.
Fe dderbyniodd Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan yr honiad ac ymddiheuro am y methiant.
Dywedodd llefarydd: "Mae'r drefn wedi cael ei adolygu ac mae camau wedi eu cymryd i wella gofal o ganlyniad i'r achos hwn."
Fe ddaethpwyd â'r achos gan fam Jamie, Cheryl Lewis-Thomas yn erbyn Ymddiriedolaeth GIG Gofal Iechyd Gwent, sydd bellach wedi cael ei lyncu gan Ymddiriedolaeth Aneurin Bevan.
Plentyndod anodd
Dywedodd Mrs Lewis-Thomas ei bod wedi penderfynu dilyn yr achos wedi iddi weld ei mab yn cael trafferth drwy gydol ei blentyndod.
Dywedodd: "Fe gafodd Jamie blentyndod anodd yn tyfu i fyny heb deimlad yn ei fraich.
"Doedd o'n methu chwarae gyda phlant eraill, defnyddio ei feic, ac roedd ymddangosiad ei fraich hefyd yn ei wneud yn darged i gael ei fwlio.
"Roeddwn i'n gwybod bod y ffordd y cafodd ei drin yn ystod ei enedigaeth ddim yn iawn a doedd dim bai arno fo."
Dywedodd Emma Jordan, o gwmni cyfreithwyr Fletchers yn Southport, Glannau Mersi, y byddai adferiad Mr Lewis yn debygol o fod wedi bod tipyn yn well petai'r ysbyty wedi cyfaddef y broblem pan ddigwyddodd yn y lle cyntaf.
Ychwanegodd: "Yn anffodus, fe gymrodd dros 20 mlynedd i Jamie a'i fam gael cyfiawnder am yr hyn ddigwyddodd.
"Mae'r iawndal sydd wedi'i sicrhau i Jamie yn cymryd i ystyriaeth maint yr anafiadau wnaeth eu dioddef a'i anghenion yn y dyfodol, ac fe fydd yn caniatáu iddo fwynhau dyfodol cadarnhaol gyda'i wraig a'i ddau o blant."