Cronfa Llanisien i ailagor?

  • Cyhoeddwyd
Llanisien
Disgrifiad o’r llun,
Mae'r grŵp ymgyrchu eisiau gweld pobl ifanc yn dysgu hwylio ar y gronfa unwaith eto

Mae ymgyrchwyr sydd eisiau gweld cronfa yng Nghaerdydd yn cael ei hadfer wedi trefnu cyfarfod gyda'r Prif Weinidog David Cameron.

Mae'r grŵp eisiau gweld Cronfa Llanisien yn cael ei hail lenwi a'i hail agor ar gyfer pysgota a hwylio.

Cafodd y gronfa ei gwagio 'nôl yn 2010 fel rhan o gynlluniau Western Power Distribution (WPD) i adeiladu rhyw 300 o dai ar y safle.

Ond fe gafodd y cais cynllunio ei wrthod yn Ebrill 2013, ac fe gafodd y safle ei werthu i Celsa Steel UK sy'n berchen ar ffatri ddur Tremorfa yng Nghaerdydd.

Fe brynodd Celsa gronfa Llys-faen ar yr un pryd i'w defnyddio ar gyfer y ffatri, ond dyw'r cwmni heb ddatgelu be' maen nhw'n fwriadu ei wneud gyda Chronfa Llanisien.

Mae'r gronfa wedi ei rhestru fel Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig ac mae'n fan poblogaidd gan gerddwyr, pysgotwyr a hwylwyr.

Pwll talent

Dr Richard Crowie yw cadeirydd y grŵp sydd eisiau ailagor y gronfa, ac fe fydd ef a'r cynghorydd Ceidwadol lleol Craig Williams yn cwrdd â Mr Cameron yn Downing Street ddydd Mercher er mwyn rhannu eu gweledigaeth.

"Rydym wedi bod yn ymgyrchu am dros 12 mlynedd er mwyn atal yr ardal yma rhag cael ei ddatblygu ar gyfer tai," meddai Dr Cowie.

"Roedd y gronfa'n arfer cael ei defnyddio fel cartref i un o ysgolion hwylio mwyaf blaenllaw Cymru ar gyfer pobl ifanc ac roedd yn lle poblogaidd ar gyfer pysgota â phlu.

"Hoffwn weld hyn yn digwydd eto."

Mae'r grŵp yn dweud fod nifer o hwylwyr o safon wedi datblygu eu sgiliau ar y gronfa, gan gynnwys Hannah Mills a enillodd fedal arian yng Ngemau Olympaidd 2012, a Dave Evans sy'n gobeithio cystadlu yng ngemau 2016.

Mae'r BBC wedi gofyn i Celsa Steel UK am ymateb.