Arestio cadeirydd Cymdeithas yr Iaith

  • Cyhoeddwyd
GraffitiFfynhonnell y llun, Wales News Service
Disgrifiad o’r llun,
Mae gweithwyr wedi bod yn ceisio glanhau y paent

Mae cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi cael ei arestio ar amheuaeth o achosi difrod troseddol.

Mae Heddlu De Cymru wedi cadarnhau eu bod wedi ei galw i ddigwyddiad doc cyn 9 y bore.

Dywedodd llefarydd ar eu rhan: "Mae dyn 28 mlwydd oed wedi cael ei arestio ar amheuaeth o achosi difrod trosedd tu allan i Adeiladau'r Goron yn ardal Cathays yng Nghaerdydd.

"Mae'n cael ei ddal yn swyddfa'r heddlu Bae Caerdydd ar hyn o bryd."

Mae'r BBC ar ddeall mai Robin Farrar yw'r unigolyn dan sylw.

Mewn datganiad i'r wasg ynglŷn â'r digwyddiad, mae'r Gymdeithas yn dweud bod sloganau wedi eu chwistrellu ar waliau'r adeilad fel rhan o'u hymgyrch i alluogi pawb yng Nghymru i "fyw yn Gymraeg".