Cyfarwyddwr Tŷ Hafan: Di-euog o gyhuddiadau
- Cyhoeddwyd

Mae cyfarwyddwr gofal hosbis plant yng Nghymru wedi ei cael ei chliro gan y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth o gyhuddiadau yn ymwneud â'r ffordd gafodd merch yn ei harddegau ei thrin.
Roedd Jayne Saunders o Dŷ Hafan ym Mro Morgannwg wedi gwadu'r pedwar cyhuddiad yn ei herbyn.
Roedden nhw'n cynnwys un honiad ei bod hi wedi dweud wrth ferch 14 oed oedd yn diodde' o lewcemia y byddai'n rhaid iddi gael profion cyson os oedd hi am aros yn yr hosbis.
Daeth y panel i'r casgliad bod yr holl gyhuddiadau heb eu profi.
Fe glywodd y gwrandawiad yng Nghaerdydd bod y cyhuddiadau'n dyddio nôl i 2008, pan oedd y ferch yn derbyn gofal yn yr hosbis.
Roedd cyhuddiad nad oedd Ms Saunders wedi sicrhau mai dim ond nyrs gymwys oedd yn gyfrifol am ofalu am y ferch, ac nad oedd hi wedi delio'n addas â chais gan y ferch i gael ffrind i aros dros nos.
Yn ogystal, fe glywodd y panel nad oedd Ms Saunders wedi rhoi digon o ystyriaeth i deimladau a safbwynt rhieni'r ferch.
Fe wadodd Ms Saunders roi wltimatwm i'r ferch, gan ddweud y byddai'r hosbis yn wynebu trafferthion pe byddai staff heb gael mynd i ystafell y ferch i gadw golwg arni.
Fe ddywedodd hi wrth y gwrandawiad fod cyfathrebu gyda rhieni'r ferch "yn anodd eithriadol" a bod tad y ferch, oedd yn gyfrifol am y rhan fwya' o'r cyfathrebu "yn ei chael hi'n anodd gwrando, neu adael i rywun orffen eu brawddeg".
Mewn datganiad, fe dywedodd llefarydd ar ran Tŷ Hafan:
"Rydym ni'n falch iawn o benderfyniad y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth wnaeth ganfod nad oedd achos yn erbyn ein Cyfarwyddwr Gofal, Mrs Jayne Saunders.
"Mae Mrs Saunders yn aelod hirdymor o staff, sydd wedi bod yn allweddol i esblygiad ein gwasanaethau gofal a datblygiad ymarfer gorau'r sector ar gyfer gofal diwedd-oes i blant â chyflyrau sy'n cyfyngu ar hyd eu bywyd.
"Mae hi'n chwarae rôl annatod ac yn aelod hynod werthfawr o'r tîm. Gallwn nawr edrych tuag at y dyfodol a chanolbwyntio ar gefnogi'n staff i ddarparu ar gyfer anghenion plant â chyflyrau sy'n cyfyngu ar hyd eu bywyd a'u teuluoedd ledled Cymru."
Straeon perthnasol
- 2 Ebrill 2014