Prifysgol Caerdydd: Griff Rhys Jones yn camu o'r neilltu
- Cyhoeddwyd

Mae Griff Rhys Jones wedi penderfynu tynnu allan o broses apwyntio Canghellor newydd i Brifysgol Caerdydd
Mewn datganiad dywedodd Mr Jones ei fod yn camu o'r neilltu er mwyn rhoi amser i Gyngor y Brifysgol "ail-ystyried" y sefyllfa.
Roedd disgwyl y byddai Mr Jones yn cael ei benodi yn gynharach yn y mis ond bu raid canslo'r seremoni ar y funud olaf.
Yng nghyfarfod Llys y Brifysgol fe wnaeth rhai aelodau wrthod cymeradwyo penodiad Mr Jones wrth ddadlau y dylai'r Athro Syr Martin Evans gael cynnig pum mlynedd arall.
'Mwy cymhleth'
Dywedodd Mr Jones ddydd Mercher: "Yn dilyn penderfyniad diweddar Llys Prifysgol Caerdydd i gyfeirio penodi Canghellor newydd yn ôl i'r cyngor, gallaf weld bod angen cyfnod o ailystyried ac ailasesu.
"Mae'n ddigon posibl bod y cyngor am ail-gynnig y swydd i Syr Martin Evans a gallai benderfynu cymryd y swydd neu gamu o'r neilltu.
"Rwy'n teimlo fod fy mhresenoldeb yn gwneud hyn yn broses fwy cymhleth i bawb dan sylw ac rwy'n credu ei bod yn well i mi dynnu'n ôl.
"Ni allaf ddweud fy mod yn cynnig fy ymddiswyddiad oherwydd nid wyf wedi cael fy mhenodi.
"Ond nid wyf am gael fy ystyried ymhellach ar gyfer y swydd hon. Braint oedd cael fy newis.
"Ar hyn o bryd rwyf yn teimlo y byddwn yn destun anghydfod ac na fyddai er lles y cyngor neu'r llys neu'r brifysgol.
"Rwy'n gobeithio yn y dyfodol y gallaf barhau i helpu Brifysgol Caerdydd."
'Rheolau'
Dywedodd llefarydd ar ran y brifysgol: "Mae'r hyn sydd wedi digwydd yn seiliedig ar reolau a gweithdrefnau mewnol.
"Bydd ein cyfeillgarwch gyda Griff Rhys Jones yn parhau."
Dywedodd y brifysgol y bydden nhw'n cyfarfod i ail-ystyried swydd y canghellor ar Fai 19.
Mae'r Athro Syr Martin Evans wedi dweud wrth gadeirydd y cyngor ei fod yn barod i ystyried tymor arall fel Canghellor.
Straeon perthnasol
- 10 Ebrill 2014
- 11 Ebrill 2014