Cyflog cyfartal: Dynion yn ennill
- Cyhoeddwyd
.jpg)
Mae grŵp o ddynion oedd yn honni eu bod wedi derbyn llai o gyflog na menywod am wneud yr un gwaith wedi ennill tribiwnlys cyflogaeth yn erbyn Prifysgol y Drindod Dewi Sant.
Roedd 18 o weithwyr, gan gynnwys seiri, gofalwyr a phlymwyr, wedi mynd â'r brifysgol i dribiwnlys a'u cyhuddo o wahaniaethu ar sail rhyw.
Roedd y brifysgol wedi dweud bod y gwahaniaeth oherwydd newid cytundebau'r dynion ac nad oedd oherwydd eu rhyw.
Ond mewn tro pedol annisgwyl ar ail ddiwrnod y tribiwnlys, fe ddywedodd tîm cyfreithiol y brifysgol wrth y gwrandawiad yng Nghaerdydd na fydden nhw'n parhau i ymladd yr achos.
'Cyfarwyddiadau pellach'
Dywedodd Peter Wallington QC ar ran y brifysgol: "Yng ngoleuni'r dystiolaeth a gytunwyd y bore 'ma rwyf wedi derbyn cyfarwyddiadau pellach gan y gwrthapelydd sy'n cydnabod bod sail i'r hawliad am dâl cyfartal."
Roedd y dynion yn cael eu cyflogi'n wreiddiol gan Brifysgol Fetropolitan Abertawe cyn iddi uno gyda Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant ym mis Awst y llynedd.
Roedden nhw ar raddfa cyflog 3 ac ar gytundeb lleiafswm o 45 awr yr wythnos ond fe newidiwyd y cytundebau fel bod pawb yn gweithio 37 awr yr wythnos.
Pan ddaeth y system newydd i rym fe wnaethon nhw sylweddoli bod eu graddfa cyflog yr awr yn llai na menywod oedd yn gwneud yr un gwaith.
Y gred yw mai dyma'r tro cyntaf ym Mhrydain i grŵp o ddynion ddod ag achos yn erbyn cyflogwr, gan honni gwahaniaethu ar sail rhyw.
'Mater hanesyddol'
Wedi'r gwrandawiad dywedodd un o'r dynion, Rob Cooze, 50 oed o Abertawe: "Doedden ni ddim am weld y mater yn mynd mor bell â hyn ond rydym yn falch bod synnwyr cyffredin wedi amlygu ei hun.
"Gyda phob parch i'n cyflogwyr newydd y Drindod Dewi Sant, mae hwn yn fater newydd iddyn nhw ac yn fater hanesyddol ac rwy'n hoffi meddwl eu bod nhw wedi cael rhywfaint i ddweud am y peth.
"Rydym yn falch o fedru parhau gyda'n bywydau arferol a gobeithio nad yw hyn wedi suro'r berthynas rhyngom ni a'n cyflogwyr newydd."
Fe fydd y ddwy ochr yn cynnal trafodaethau am faint o iawndal y bydd y dynion yn ei dderbyn.
Fe allai'r costau i'r brifysgol gynyddu gan fod saith dyn arall wedi dweud y byddan nhw'n dod ag achos eu hunain pe bai'r achos cyntaf yn erbyn y brifysgol yn llwyddiannus.
'Sail i'r achos'
Eglurodd y brifysgol eu bod wedi newid eu meddwl wedi tystiolaeth yr Athro David Warner yn y tribiwnlys. Mr Warner oedd Is-Ganghellor Prifysgol Fetropolitan Abertawe.
Dywedodd llefarydd ar ran Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant: "Fe ddaethon ni i'r casgliad bod sail i'r achos a gyflwynwyd yn wreiddiol gan staff cyn Brifysgol Fetropolitan Abertawe ac o ganlyniad y dylid cytuno a gweithredu datrysiad addas.
"Roedd y tribiwnlys yn ymwneud â digwyddiadau dros saith mlynedd yn ôl cyn yr uno gyda Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant a ddigwyddodd yn 2013.
"Roedd hwn yn achos cymhleth, ac rydym yn siomedig bod rhaid i'r brifysgol nawr ddelio, yn briodol ac yn ofalus, gyda chanlyniadau penderfyniadau hanesyddol."
Straeon perthnasol
- 22 Ebrill 2014