Cyhoeddi enw dyn fu farw ar Yr Wyddfa

  • Cyhoeddwyd

Mae cerddwr a gwympodd 500 troedfedd i'w farwolaeth ar Yr Wyddfa Ddydd Gwener y Groglith wedi cael ei enwi.

Roedd Dylan Arwel Rattray, 21 oed o Lanfihangel y Creuddyn ger Aberystwyth, a'i ffrind ar eu ffordd yn ôl i lawr y mynydd pan ddigwyddodd y drasiedi.

Roedden nhw wedi ceisio cerdded ar lethr glaswelltog, serth pan syrthiodd Dylan dros ochr dibyn.

Roedd cerddwyr cyfagos wedi clywed ei ffrind yn gweiddi ac wedi ffonio am gymorth.

Dywedodd llefarydd ar ran yr heddlu bod Mr Rattray wedi marw "er gwaethaf ymdrechion" y gwasanaethau brys.

Mae'r crwner lleol, Dewi Pritchard, wedi dechrau ymchwiliad i'r farwolaeth.