Hanes i achub Eglwys Sant Pedr?
- Cyhoeddwyd

Mae cynlluniau ar y gweill i achub Eglwys Sant Pedr yng Nghaerfyrddin.
Oherwydd bod nifer yr addolwyr yn gostwng a bod pris y cynnal a chadw yn cynyddu, mae'r eglwys angen £50,000 i gadw'r drysau ar agor y flwyddyn nesaf.
Hanfod y cynllun i godi arian yw manteisio ar hanes lleol.
Yn ôl y cynghorydd Alun Lenny, mae posib troi treftadaeth yn bunnoedd.
Hanes o hud a lledrith
Dywedodd wrth BBC Cymru: "Yn yr eglwys mae beddrod Rhys ap Thomas, mae 'na gerflun o farchog mewn arfwisg llawn.
"Roedd Rhys ap Thomas yn berchen ar gestyll, yn noddwr y beirdd ac yn dirfeddiannwr mawr amser Rhyfel y Rhosynod. Roedd ym mrwydr Bosworth gyda charfan fawr o filwyr o Gaerfyrddin ac yn ôl traddodiad, sy'n dyddio nôl i'r amser yna, Rhys ap Thomas laddodd y Brenin Richard III ym Mrwydr Bosworth.
"Ergyd carreg o fan hyn yn y priordy fe ysgrifennwyd llyfr du Caerfyrddin sy'n dyddio nôl bron i wyth canrif erbyn hyn, y llyfr hyna' sy'n dal i oroesi yn yr iaith Gymraeg.
"Yn y llyfr yna mae un o'r cyfeiriadau cyntaf yn llenyddiaeth y byd i'r dewin Myrddin, neu Merlin, a beth 'y ni'n teimlo yw oherwydd y cysylltiadau gyda Chaerfyrddin bod angen i ni yn enwedig i gymryd mantais o'r cysylltiad hwn i wneud yr ardal hon yn ardal dreftadaeth fydd yn atyniad i ymwelwyr o bell ac agos."
'Nunlle arall'
Mae'r ciwrad Ben Rees yn dweud bod ond "cadw'r eglwys yn sefyll" yn her.
Dywedodd bod trafodaethau wedi dechrau gyda'r Llyfrgell Genedlaethol er mwyn "cael llyfrdy Caerfyrddin i mewn i'r eglwys" ar ffurf arddangosfa ddigidol, fel y gall pobl ddarllen am hanes yr ardal.
Un sy'n credu ym mhwysigrwydd cadw eglwysi fel Sant Pedr yn agored yw Don James, sy'n gweithio gyferbyn a'r eglwys.
"Mae yna angladdau, priodasau, bedydd...
"Mae 'na un eglwys wedi cau yn barod... mae ishe cadw fe ar agor, ma' raid.
"Does nunlle arall yng Nghaerfyrddin o's e."
Mae'r eglwys ar gau am bythefnos oherwydd gwaith cynnal a chadw ond y gobaith yw y bydd y drysau'n agor yn y man.