Diwedd i Wobrau Dewi Sant?

  • Cyhoeddwyd
Carwyn Jones
Disgrifiad o’r llun,
Cafodd enillwyr cyntaf Gwobrau Dewi Sant eu cyhoeddi ym mis Mawrth eleni

Mae Llywodraeth Cymru yn dweud nad ydyn nhw wedi penderfynu a fydd Gwobrau Dewi Sant, gafodd eu cynnal am y tro cyntaf fis diwethaf, yn cael eu cynnal eto.

Mae'r gwobrau i fod yn "fathodyn i anrhydeddu" y rheiny sy'n "gwneud pethau eithriadol ac yn gwneud gwahaniaeth i safon bywyd yng Nghymru".

Yn ôl eu gwefan, bydd y gwobrau yn cael eu cynnal yn flynyddol yn y gwanwyn.

Ond mewn ymateb i gais dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth, mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau bod y gwobrau yn cael eu hadolygu, ac nad ydyn nhw wedi penderfynu ddylen nhw barhau i gael eu cynnal yn flynyddol.

Cadarnhaodd y llywodraeth hefyd bod gwobrau 2014 wedi costio bron i £60,000, a bod y llywodraeth wedi cyfrannu £26,000 o'r swm yma.

Daeth y gweddill gan noddwyr.

Yn eu hymateb, dywedodd Llywodraeth Cymru:

"Mae gwerthusiad o effaith cynllun Gwobrau Dewi Sant yn ei flwyddyn gyntaf wedi dechrau a bydd ymrwymiad i barhad y gwobrau yn ddibynnol ar archwiliad o'r holl fesuryddion allweddol ac allbwn y prosesau."