Antur beicio mynydd i'r anabl

  • Cyhoeddwyd
Beicio mynydd anabl
Disgrifiad o’r llun,
Paul Robinson yn ystod her 'Hand Bikes at Dawn' y llynedd

Mae aber yr afon Mawddach yn ne Eryri yn gartref i benwythnos o feicio mynydd anturus i bobl anabl y penwythnos hon.

Mae'r penwythnos yn amrywio o godi ymwybyddiaeth am anabledd a chynnig hyfforddiant ar gyfer gweithwyr mynydd proffesiynol yng nghanolfan feicio mynydd Coed y Brenin i sesiynau rhoi cynnig arni ar gyfer beicwyr dibrofiad ar Lwybr y Mawddach.

Bydd y penwythnos yn cyrraedd uchafbwynt gyda'r sialens 'A Ridge Too Far', her sy'n ddilyniant i lwyddiant sialens 'Hand Bikes at Dawn' ar Gader Idris y llynedd, fydd yn golygu bod pedwar beiciwr anabl a'u tîm o gefnogwyr yn ceisio concro llwybr Pont Sgethin.

Hen lwybrau

Mae'r daith yn dilyn yr hen lwybrau ceffylau rhwng trefi Dolgellau a Harlech, gan wneud defnydd o'r traciau sy'n croesi crib y mynydd sy'n cysgodi'r arfordir.

Her y beicwyr fydd cyrraedd y grib ddwywaith i gwblhau'r siwrne.

Yn defnyddio beiciau mynydd sydd wedi eu haddasu i gael eu pedalu gyda llaw yn hytrach na choesau, bydd y beicwyr yn ceisio cwblhau'r llwybr 16km, her all gymryd tua wyth awr.

Yn ôl y trefnwyr, y bwriad yw hybu proffil beicio mynydd anabl yn y DU, a chodi arian tuag at elusennau cysylltiedig lleol.