Cludwyr Baton y Frehines

  • Cyhoeddwyd
baton y Frenhines
Disgrifiad o’r llun,
Mae Alex Jones, cyflwynydd rhaglen 'The One Show' y BBC, y cyn-athletwr Olympaidd ac enillydd medal yng Ngemau'r Gymanwlad, Iwan Thomas, a'r tenor, Wynne Evans, ymysg cludwyr y baton, ynghyd ag 16 aelod arall o'r gymuned.

Gyda mis yn unig i fynd cyn i Daith Cyfnewid Baton y Frenhines gyrraedd Cymru, mae mwy o enwau cludwyr y Baton wedi'u cyhoeddi.

Mae sêr fel Alex Jones, cyflwynydd rhaglen 'The One Show' y BBC, y cyn-athletwr Olympaidd ac enillydd medal yng Ngemau'r Gymanwlad, Iwan Thomas, a'r tenor, Wynne Evans, ymysg cludwyr y baton, ynghyd ag 16 aelod arall o'r gymuned.

Ymhlith y rheiny mae:

Bydd y baton yn glanio yng Nghymru ym Maes Awyr Caerdydd ddydd Sadwrn 24 Mai, gan dreulio saith niwrnod yn teithio ledled y wlad, yn ennyn cefnogaeth i athletwyr Cymru sydd ar fin teithio i Glasgow i gystadlu dros Gymru, gan gyrraedd y lleoliad terfynol yn Llandegla ddydd Gwener 30 Mai 2014.

Mae penaethiaid Gemau'r Gymanwlad Cymru yn addo y bydd hi'n wythnos i'w chofio ac yn annog y cyhoedd i gefnogi Tîm Cymru drwy eu croesawu yn eu hardaloedd.

Meddai Chris Jenkins, Prif Swyddog Gweithredol Cyngor Cymru ar gyfer Gemau'r Gymanwlad, sy'n gyfrifol am ddewis ac anfon tîm Cymru i Glasgow 2014: "Rydym ni wedi cyrraedd 30 diwrnod cyn i'r baton gyrraedd Cymru, mae'r holl gynlluniau ar waith ac rydym ni eisiau sicrhau bellach bod cymaint o bobl â phosibl yng Nghymru yn cael profiad o'r daith gyfnewid wrth iddi ymlwybro ar draws y wlad.

"Mae awdurdodau lleol a phartneriaid eraill, fel yr Urdd, wedi gweithio'n galed i sicrhau y bydd y baton yn cael croeso cynnes iawn wrth iddo gyrraedd eu hardaloedd, a cheir digwyddiadau yn amrywio o ddarlleniadau barddoniaeth yn nhŷ cychod Dylan Thomas yn Nhalacharn i ddigwyddiad aml-gamp yng Nglynebwy ac Eisteddfod yr Urdd yn y Bala, gan gynnig digonedd o gyfleoedd y mae'n sicr na fyddwch eisiau eu methu."

Mae'r rhai sy'n ymwneud â chynllunio a threfnu Taith Cyfnewid Baton y Frenhines ar draws Cymru yn annog pobl i ddechrau cynllunio pryd a ble y byddant yn mynd allan i gefnogi'r daith trwy fynd i'r wefan lle mae map o lwybr y daith gyfnewid, manylion y digwyddiadau a gweithgareddau niferus.

Bydd Gemau'r Gymanwlad yn cael ei chynnal yn Glasgow rhwng Gorffennaf 23 ac Awst 3.

Cynhaliwyd y digwyddiad cyntaf ym 1930 ac fe'i cynhelir bob pedair blynedd.

Bydd yn cynnwys 70 tîm o athletwyr o'r Gymanwlad, gydag 11 diwrnod o gystadlu mewn 17 camp.