Statws lleiafrifol i bobl Cernyw dan reolau Ewropeaidd

  • Cyhoeddwyd
Danny Alexander
Disgrifiad o’r llun,
Dywedodd Prif Ysgrifennydd y Trysorlys Danny Alexander ei fod ''wrth ei fodd'' gyda'r datblygiad.

Bydd pobl Cernyw yn derbyn statws lleiafrifol dan reolau Ewropeaidd i warchod lleiafrifoedd cenedlaethol.

Bydd Prif Ysgrifennydd y Trysorlys Danny Alexander yn gwneud cyhoeddiad wrth ymweld â'r sir yn ddiweddarach.

Dywedodd Dick Cole, arweinydd plaid annibyniaeth Mebyon Kernow: ''Mae hwn yn ddatblygiad ffantastig. Mae hwn yn ddiwrnod balch iawn i Gernyw.''

Yn dilyn y datblygiad fe fydd pobl Cernyw yn derbyn yr un statws â'r Cymry, y Gwyddelod a'r Albanwyr.

Meddai Mr Alexander, sydd am ymweld â Bodmin yn ddiweddarach: ''Mae gan bobl Cernyw hanes balch a hunaniaeth unigryw.

''Rwyf wrth fy modd ein bod wedi gallu cydnabod hyn yn swyddogol ac yn rhoi'r un statws i bobl Cernyw â lleiafrifoedd eraill yn y DU.''

'Balchder Celtaidd'

Dywedodd arweinydd Mebyon Kernow Mr Cole: "Mae llawer o bobl wedi bod yn gweithio ers llawer o flynyddoedd i gael y gydnabyddiaeth i Gernyw sydd yn bodoli'n barod gyda phobl Geltaidd eraill y DU.

''Mae'r manylion i ddilyn am beth y gall hyn ei olygu, ond yn sicr mae'n ddiwrnod balch iawn i Gernyw.''

Mae grŵp o unigolion blaenllaw wedi bod yn gweithio ar ddogfen sydd yn esbonio pam y dylai pobl Cernyw dderbyn statws lleiafrifol dan reolau Ewropeaidd.

Dywedodd yr ymgyrchydd Bert Biscoe, sydd yn gynghorydd annibynnol ac yn aelod o'r grŵp: ''Rwyf yn croesawu'n fawr y ffaith y gall pobl Cernyw sefyll yn gyfartal ger pob grŵp arall ym Mhrydain.''

Cyngor

Meddai John Pollard, arweinydd Cyngor Cernyw: ''Mae 'na fanteision amlwg iawn o gael ein cynnwys o fewn y fframwaith Ewropeaidd, sydd yn werth ei ddathlu, ac rwyf yn talu teyrnged i'r holl bobl sydd wedi gweithio yn ddiflino dros nifer o flynyddoedd i gyflawni'r statws hwn.''

Dywedodd y Gweinidog Cymunedau Stephen Williams: ''Mae hwn yn ddiwrnod da iawn i bobl Cernyw sydd wedi ymgyrchu'n hir am gydnabyddiaeth swyddogol i hunaniaeth unigryw pobl Cernyw.

''Pobl Cernyw a'r Cymry yw'r bobloedd mwyaf hynafol ar yr ynys hon ac fel Cymro balch rwyf yn edrych ymlaen at weld baner Sant Piran yn cyhwfan gyda balchder ychwanegol ar Fawrth y 5ed y flwyddyn nesaf.''

Methiant oedd y tri ymdrech diwethaf i sicrhau statws lleiafrifol dan reolau Ewropeaidd i bobl Cernyw.

Ym mis Mawrth eleni, dywedodd y Dirprwy Brif Weinidog Nick Clegg y byddai llywodraeth San Steffan yn buddsoddi £120,000 ym Mhartneriaeth yr Iaith Gernyweg er mwyn hybu a datblygu'r iaith Gernyweg.